Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Canol Sussex, Bwrdeistref Tonbridge a Malling, Medway |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.4492°N 0.7383°E, 51.1767°N 0.1475°W, 51.4492°N 0.7383°E |
Tarddiad | Turners Hill |
Aber | Afon Tafwys |
Llednentydd | Afon Eden, East Malling Stream, Loose Stream, Afon Beult, Afon Bourne, Afon Len, Afon Teise, Wateringbury Stream |
Dalgylch | 2,409 cilometr sgwâr |
Hyd | 113 cilometr |
Arllwysiad | 90 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Afon yng Nghaint gyda hyd byr yng Ngorllewin Sussex, De-ddwyrain Lloegr, yw Afon Medway. Mae'n codi yn y Weald yng Ngorllewin Sussex ger pentref Turners Hill, ac yn llifo tua'r gogledd ac wedyn i'r dwyrain am 110 km (70 mi) trwy Gaint i aberu yn Afon Tafwys ger Sheerness. Ar ei ffordd mae'n llifo trwy Tonbridge, Maidstone, Rochester, Chatham a Gillingham. Mae ganddi ddalgych o 2,400 km² (930 mi²) – y dalgylch ail fwyaf yn ne Lloegr ar ôl Afon Tafwys – sy'n cynnwys chwe phrif isafon a llawer o lednentydd llai.
Dyma'r prif isafonydd:
Yn y gorffennol roedd yr afon yn bwysig fel ffordd o gludo nwyddau, a byddai cychod trwm yn mynd i fyny'r afon cyn belled â Tonbridge. Mae un ar ddeg o lociau rhwng Allington a Tonbridge