Math | y brif ffrwd, dyfrffordd, dyfrffordd cenedlaethol yn yr Almaen, afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | basn y Rhein, ffin Ffrain-yr Almaen, ffin y Swistir-Liechtenstein, ffin yr Undeb Ewropeaidd-y Swistir, ffin yr Almaen-Swistir, ffin Awstria-Swistir |
Gwlad | Y Swistir, Awstria, Liechtenstein, yr Almaen, Ffrainc, Yr Iseldiroedd |
Cyfesurynnau | 51.9808°N 4.0931°E, 46.632513°N 8.67481°E, 47.6662°N 9.1786°E |
Tarddiad | Tomasee |
Aber | Môr y Gogledd |
Dalgylch | 185,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 1,232.7 cilometr |
Arllwysiad | 2,200 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Bodensee |
Afon 1,230 km (760 mi) o hyd yn Ewrop yw Afon Rhein (Almaeneg: Rhein, Iseldireg: Rijn, Ffrangeg: Rhin, Lladin: Rhenus). Mae'n tarddu yng Nghanton y Grisons y Swistir ac yn llifo tua'r Iseldiroedd i'r gogledd gan lifo i mewn i Fôr y Gogledd. Credir fod yr enw'n tarddu o'r gair Galeg Rēnos, sy'n golygu "llifo".
Gellir defnyddio llongau ar 883 km o'i hyd, ac o'r herwydd mae o bwysigrwydd economaidd mawr. Mae'n llifo trwy'r Swistir, Awstria, yr Almaen a'r Iseldiroedd, ac yn ffurfio'r ffin rhwng un neu fwy o'r gwledydd hyn â Ffrainc a Liechtenstein. Mae basn y Rhein yn 198,735 km², yn cynnwys y cyfan o Lwcsembwrg a thannau llai o Wlad Belg a'r Eidal yn ogystal a'r gwledydd uchod.
Hi yw'r afon ail-hiraf yng Nghanolbarth a Gorllewin Ewrop (ar ôl Afon Donaw), tua 1,230 km,[1]
Ymhlith y dinasoedd mwyaf a phwysicaf yr afon mae Cologne, Düsseldorf, Rotterdam, Strasbwrg a Basel .