Math | afon |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Gaerloyw, Wiltshire, Swydd Rydychen, Berkshire, Swydd Buckingham, Surrey, Essex, Caint, Llundain Fawr |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5°N 0.61°E, 51.6944°N 2.0297°W |
Tarddiad | Kemble |
Aber | Môr y Gogledd, Aber Tafwys |
Llednentydd | Tributaries of the River Thames, Afon Colne, Afon Brent, Afon Cherwell, Afon Medway, Westbourne, Afon Ravensbourne, Afon Wey, Afon Windrush, Afon Coln, Afon Mole, Afon Darent, Afon Roding, Afon Kennet, Afon Evenlode, Afon Thame, Bulstake Stream, Colne Brook, Afon Ebbsfleet, Afon Longford, Mardyke, Afon Ash, Afon Bourne, Afon Bourne, Afon Churn, Afon Cole, Afon Ember, Afon Ingrebourne, Afon Key, Afon Leach, Afon Loddon, Afon Ock, Afon Pang, Afon Peck, Afon Ray, Afon Rom, Afon Wye, Afon Hogsmill, Hinksey Stream, Afon Crane, Parr’s Ditch, Afon Wandle |
Dalgylch | 15,300 cilometr sgwâr |
Hyd | 334 ±1 cilometr |
Arllwysiad | 65.8 metr ciwbic yr eiliad |
Afon yn ne Lloegr sydd yn llifo trwy Lundain i Fôr y Gogledd yw Afon Tafwys. Tardd yr afon ger pentref Kemble yn ardal y Cotswolds. Yna llifa'r afon am 346 km (215 milltir) trwy Rydychen, Reading, Maidenhead, Eton, Windsor a Llundain cyn cyrraedd Aber Tafwys a Môr y Gogledd. Ystyrir bod yr afon yn aberu'n derfynol ger cefnen dywod Nore.
Afon Tafwys yw'r ffin rhwng nifer o siroedd seremonïol Lloegr mewn sawl man ar hyd ei thaith. Mae'n tarddu yn Swydd Gaerloyw ac yna'n llifo rhwng Swydd Gaerloyw a Wiltshire, rhwng Berkshire a Swydd Rydychen, rhwng Swydd Rydychen a Swydd Buckingham, rhwng Swydd Buckingham a Surrey, rhwng Surrey a Middlesex, a rhwng Essex a Chaint.
Mae llanw'r môr yn cyrraedd rhyw 90 km ar hyd yr afon. Honna rhai fod y Rhufeiniaid wedi dewis Llundain i fod yn brifddinas am mai Llundain oedd terfyn llanw Tafwys adeg dyfodiad y Rhufeiniaid yn 48 O.C. Heddiw mae dŵr yr afon ychydig yn hallt yn Llundain.