Enghraifft o'r canlynol | darlledwr, gorsaf deledu |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1 Tachwedd 1996 |
Perchennog | Al Jazeera Media Network |
Sylfaenydd | Hamad bin Khalifa Al Thani |
Rhiant sefydliad | Al Jazeera Media Network |
Pencadlys | Doha |
Gwefan | https://www.aljazeera.com/, https://www.aljazeera.net/, https://chinese.aljazeera.net/, http://aljazeera.com.tr/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Al Jazeera (Arabeg: الجزيرة, al-jazīrah; IPA: [aldʒaˈziːra], sy'n golygu "Yr Ynys" yn Arabeg), yn rhwydwaith teledu rhyngwladol sydd a'i phencadlys yn Doha, Catar.[1] Yn wreiddiol, lawnsiwyd y sianel fel sianel teledu lloeren Arabeg ar gyfer newyddion a materion cyfoes Arabaidd, ond bellach mae Al Jazeera wedi ehangu i fod yn rhwydwaith gyda nifer o ganghennau gan gynnwys safle gwe a sianeli teledu arbenigol mewn amryw o ieithoedd ac mewn sawl rhan o'r byd, yn cynnwys Saesneg.
Perchennog Al Jazeera yw Llywodraeth Qatar.[2][3][4][5][6] Er hyn, cadarnhaodd swyddogion y sianel ar nifer o achosion eu bod yn annibynnol eu barn o'r Llywodraeth.
Cafodd y sianel sylw'r byd yn dilyn ymosodiadau Medi'r 11eg, 2001 pan ddarlledodd ddatganiadau gan Osama bin Laden ac arweinwyr eraill al-Qaeda. Hi oedd yr unig sianel a ddarlledai o Affganistan yn anterth y rhyfela, a hynny'n fyw o'u swyddfeydd yn Affganistan.[7]
Erbyn heddiw mae'n un o'r sianeli teledu newyddion rhyngwladol mwyaf cyfarwydd a dylanwadol yn y byd.