Y Gwir Anrhydeddus Alex Salmond | |
---|---|
Prif Weinidog yr Alban | |
Yn ei swydd 16 Mai 2007 – 19 Tachwedd 2014 | |
Teyrn | Elisabeth II |
Dirprwy | Nicola Sturgeon |
Rhagflaenwyd gan | Jack McConnell |
Dilynwyd gan | Nicola Sturgeon |
Arweinydd yr SNP | |
Yn ei swydd 3 Medi 2004 – 14 Tachwedd 2014 | |
Rhagflaenwyd gan | John Swinney |
Dilynwyd gan | Nicola Sturgeon |
Yn ei swydd 22 Medi 1990 – 26 Medi 2000 | |
Rhagflaenwyd gan | Gordon Wilson |
Dilynwyd gan | John Swinney |
Aelod Senedd yr Alban dros Dwyrain Swydd Aberdeen | |
Yn ei swydd 5 Mai 2011 – 5 Mai 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlu'r etholaeth |
Aelod Senedd yr Alban dros Gordon | |
Yn ei swydd 3 Mai 2007 – 5 Mai 2011 | |
Rhagflaenwyd gan | Nora Radcliffe |
Dilynwyd gan | Daeth yr etholaeth i ben |
Etholaeth Senedd yr Alban dros Banff a Buchan | |
Yn ei swydd 6 Mai 1999 – 7 Mehefin 2001 | |
Rhagflaenwyd gan | Crewyd yr etholaeth |
Dilynwyd gan | Stewart Stevenson |
Aelod Seneddol dros Banff a Buchan | |
Yn ei swydd 11 Mehefin 1987 – 6 Mai 2010 | |
Rhagflaenwyd gan | Albert McQuarrie |
Dilynwyd gan | Eilidh Whiteford |
Manylion personol | |
Ganwyd | Alexander Elliot Anderson Salmond 31 Rhagfyr 1954 Linlithgow, West Lothian, yr Alban |
Bu farw | 12 Hydref 2024 Gogledd Macedonia | (69 oed)
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Priod | Moira Salmond |
Cartref | Bute House, Caeredin (Official) Strichen, yr Alban (Private) |
Alma mater | Prifysgol St Andrews |
Galwedigaeth | Economegydd |
Gwefan | Alex Salmond AGA |
Gwleidydd o'r Alban ac arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban (yr 'SNP') oedd Alexander Elliot Anderson Salmond (31 Rhagfyr 1954 – 12 Hydref 2024). Hyd at ei ymddiswyddiad ar 19 Tachwedd 2014 Salmond oedd pedwerydd Prif Weinidog yr Alban; parhaodd fel Aelod Senedd yr Alban dros Dwyrain Swydd Aberdeen hyd at 2016. Ar 19 Medi 2014, yn dilyn methiant yr ymgyrch dros annibyniaeth, dywedodd na fyddai'n ailsefyll fel Prif Weinidog y wlad; dywedodd "Mae fy nghyfnod i ar ben, ond mae'r freuddwyd yn fyw." Yn fwy na neb arall, ef fu prif ladmerydd dros annibyniaeth i'r Alban o'r 1990au hyd at fis Medi 2014. Ar 19 Tachwedd 2014 yn dilyn cyhoeddi ei ymddiswyddiad trosglwyddodd arweinyddiaeth ei blaid a Phrif Weinidogaeth ei wlad i Nicola Sturgeon.[3]