Dinasyddion yr Unol Daleithiau gyda'u llinach yn tarddu o'r Almaen yw'r Americanwyr Almaenig, a gaent eu disgrifio fel Almaenig-Americanaidd (Almaeneg Deutschamerikaner). Hon yw'r grŵp llinach mwyaf yn nemograffeg yr Unol Daleithiau, gan gyfrif 17% o'r boblogaeth yn bresennol.[1] Cyrhaeddodd yr Almaenwyr cyntaf i'r Unol Daleithiau mewn niferoedd arwyddocaol i Efrog Newydd a Pennsylvania yn yr 1680au. Mae tua 8 miliwn o fewnfudwyr wedi myned i'r Unol Daleithiau ers hynny.