Amgylchedd

Amgylchedd
Mathamgylchedd, gwrthrych ffisio-ddaearyddol Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscoedwig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yr Amgylchedd
Yr Amgylchedd

Tywydd
Hinsawdd
Atmosffer y ddaear


Newid hinsawdd Cynhesu byd eang


Categori

Y Byd Bregus
Cynhesu Byd Eang

Amgylchedd
Adnewyddadwy
Anadnewyddadwy
Asesiad Amgylcheddol
Cylchred carbon
Cynhesu byd eang
Cytundeb Kyoto
Eco-sgolion
Haen osôn
Panel solar
Tanwydd ffosil
Ynni adnewyddol
Ynni cynaladwy


Categori

Mae'r term amgylchedd yn cyfeirio at y pethau byw a difywyd i gyd sy'n bodoli yn naturiol ar y ddaear neu ar ran ohoni (e.e. yr amgylchedd naturiol mewn gwlad). Mae'r term yn cynnwys dwy gydran allweddol:

  1. Unedau cyflawn tirweddol sy'n gweithio fel systemau naturiol heb ymyriad sylweddol gan fodau dynol, gan gynnwys planhigion, anifeiliaid, creigiau ac ati, yn ogystal â'r ffenomenau naturiol sy'n digwydd y tu mewn i'w ffiniau.
  2. Adnoddau naturiol cyffredinol a ffenomenau corfforol sydd heb ffiniau clir, megis awyr, dŵr a hinsawdd, yn ogystal ag ynni, ymbelydredd, gwefr trydanol a magnetedd, nad ydynt yn tarddu o weithgaredd dynol.

Gellir cyferbynnu'r amgylchedd naturiol â'r amgylchedd adeiledig, sy'n cynnwys yr ardaloedd a chydrannau y dylanwadir yn drwm arnynt gan fodau dynol. Ystyrir ardal ddaearyddol i fod yn amgylchedd naturiol os ydy'r effaith ddynol wedi ei chadw dan lefel gyfyngedig. Mae'r lefel hon yn dibynnu ar y cyd-destun penodol, felly mae'n newid yn ôl yr ardal a'r cyd-destun. Y term anial, ar y llaw arall, sy'n cyfeirio at ardaloedd sydd heb ymyriad gan fodau dynol o gwbl (neu sydd ag ychydig iawn o ymyriad).


Developed by StudentB