Arwyddair | Ancon Dorica Civitas Fidei |
---|---|
Math | cymuned, dinas, dinas fawr |
Enwyd ar ôl | Penelin |
Poblogaeth | 98,356 |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Daniele Silvetti |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Judas Cyriacus |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Ancona |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 124.84 km² |
Uwch y môr | 16 metr |
Gerllaw | Môr Adria |
Yn ffinio gyda | Agugliano, Camerano, Camerata Picena, Falconara Marittima, Offagna, Osimo, Polverigi, Sirolo |
Cyfesurynnau | 43.62°N 13.52°E |
Cod post | 60100, 60121–60131 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Ancona |
Pennaeth y Llywodraeth | Daniele Silvetti |
Dinas, porthladd a chymuned (comune) yn nwyrain canolbarth yr Eidal yw Ancona, sy'n brifddinas talaith Ancona a rhanbarth Marche. Saif ar y Môr Adriatig, 210 km i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Rhufain a 200 km i'r de-ddwyrain o Bologna.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 100,497.[1]
Dinas Roegaidd oedd Ancona yn wreiddiol; fe'i sefydlwyd o Siracusa tua 390 CC. Daw'r enw Ancona o'r Groeg Αγκων, "penelin", o ffurf y penrhyn ger yr harbwr.