Cordillera de los Andes | |
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Bolifia, Tsile, Colombia, Ecwador, Periw, Feneswela, yr Ariannin |
Arwynebedd | 3,300,000 km² |
Uwch y môr | 6,962 metr |
Cyfesurynnau | 32.6533°S 70.0117°W |
Hyd | 7,000 cilometr |
Cyfnod daearegol | Mesosöig |
Cadwyn fynydd | American Cordillera |
Mae'r Andes yn fynyddoedd sy'n ymestyn ar hyd ochr orllewinol De America o Feneswela hyd Patagonia, ac yn rhan nodweddiadol o dirlun gwledydd Ariannin, Bolifia, Tsile, Colombia, Ecwador, Periw a Feneswela. Yn rhan ddeheuol yr Andes, y mynyddoedd hyn yw'r ffin rhwng Ariannin a Tsile. Ymhellach i'r gogledd mae'r Andes yn lletach, ac yn cynnwys tir uchel gwastad yr Altiplano, sy'n cael ei rannu rhwng Periw, Bolifia a Tsile. Hyd y gadwen hon o fynyddoedd yw 6,999 cilometr (4,349 milltir) ac maen nhw rhwng 200 a 700 km (124 - 435 mi) o led. Yr uchder cyfartalog yw tua 4,000 (13,123 tr).
Ar eu hyd, gellir rhannu'r Andes yn sawl isgadwyn, gyda pant rhwng pob un. Ceir sawl llwyfandir uchel - mae rhai ohonynt yn gartref i ddinasoedd mawr fel Quito, Bogotá, Cali, Arequipa, Medellín, Bucaramanga, Sucre, Mérida, El Alto a La Paz. Llwyfandir Altiplano yw ail uchaf y byd ar ôl llwyfandir Tibet. Mae'r ystodau hyn yn eu tro wedi'u grwpio yn dair prif adran yn seiliedig ar yr hinsawdd: yr Andes Drofannol, yr Andes Sych, a'r Andes Gwlyb.
Mynyddoedd yr Andes yw'r mynyddoedd uchaf y tu allan i Asia. Mynydd Aconcagua yr Ariannin yw'r mynydd uchaf y tu allan i Asia, yn codi i ddrychiad o tua 6,961 metr (22,838 tr) uwch lefel y môr. Mae copa'r Chimborazo yn Andes Ecwador yn bellach o ganol y Ddaear nag unrhyw leoliad arall ar wyneb y Ddaear, oherwydd y chwydd cyhydeddol sy'n deillio o gylchdro'r Ddaear. Yn yr Andes hefyd mae rhai o losgfynyddoedd ucha'r byd, gan gynnwys Ojos del Salado ar ffin Gweriniaeth Tsile-Ariannin, sy'n codi i 6,893 m (22,615 tr).
Oherwydd bod yr Andes yn uchel ac yn ymestyn am gymaint o bellter o'r de i' gogledd, mae amrywiaeth mawr o dywydd ac o blanhigion, o goedwigoedd glaw llethrau'r rhan ogleddol hyd anialwch o rew ac eira. Ymhlith anifeiliaid nodweddiadiol yr Andes mae'r condor, y piwma, y llama a'i berthynas yr alpaca. Yn rhan ogleddol yr Andes y datblygodd ymerodraeth yr Inca yn y 15g, a gellir gweld llawer o adeiladau o'r cyfnod hwn. Mae'r bobl frodorol wedi dal eu tir yn well yn yr Andes nag yn y rhan fwyaf o gyfandir America; er enghraifft yn yr Andes yn Periw lle mae canran uchel o'r boblogaeth heddiw yn frodorion. Y prif ieithoedd a siaredir yn yr Andes (heblaw Sbaeneg) yw Quechua ac Aymara. Tyfir cnydau yn uchel ar y llethrau yn rhan ogleddol yr Andes. Y prif gnydau yw tybaco, coffi a chotwm, ac mae tatws, sy'n dod o'r Andes yn wreiddiol, yn arbennig o bwysig. Mae coca hefyd yn bwysig, ac mae llawer o drigolion yr Andes yn arfer cnoi dail coca neu'n rhoi dŵr porth arnynt i wneud math o dê.
Credir fod y gair andes yn dod o'r gair Quechua anti, sy'n golygu "crib uchel".