Anffyddiaeth

Anffyddiaeth
Enghraifft o'r canlynolbarn y byd, mudiad athronyddol, doxastic attitude Edit this on Wikidata
MathAnghrefydd Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebtheistiaeth Edit this on Wikidata
Yn cynnwysMarxist‒Leninist atheism, New Atheism Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Anffyddiaeth

Anffyddiaeth yw, mewn ystyr eang, gwrthod y gred mewn bodolaeth Duw, duwiau, neu dduwiesau.[1] Mewn ystyr culach, safbwynt anffyddiaeth ydy nad oes dim duw neu dduwies.[2][3] Yn y bôn, anffyddiaeth yw'r absenoldeb o gredu mewn bodolaeth unrhyw dduwdod.[3][4] Cyferbynnir anffyddiaeth â theistiaeth,[5][6] sy'n honni bod un duwdod o leiaf sy'n bodoli.[6][7]

Daw'r term gwreiddiol o'r gair Groeg "ἄθεος" (atheos), sy'n golygu "heb dduw". Rhoddwyd yr enw hwn ar bobl, ynghyd â chynodiad negyddol, oedd yn gwrthod y duwiau a addolwyd gan y gymdeithas/gymuned leol. Wrth i rydd-feddyliaeth ledaenu, ynghyd ag amheuaeth wyddonol a chynnydd dilynol mewn beirniadu crefydd, culhaodd defnydd o'r gair yn ei ystyr. Dechreuodd bobl i adnabod eu hunain yn "anffyddwyr" yn ystod y 18eg ganrif.[8]

Fel arfer, mae anffyddwyr yn amheus o honiadau goruwchnaturiol, gan ddyfynnu diffyg tystiolaeth empirig. Mae anffyddwyr wedi cynnig llawer o resymau am beidio â chredu mewn unrhyw dduw neu dduwies, sy'n cynnwys y problem o ddrwg, y ddadl o ddatguddiadau anghyson, a'r ddadl o anghrefydd. Mae ymresymiadau ar gyfer anffyddiaeth yn cynnwys y rhai athronyddol, cymdeithasol, a hanesyddol. Er bod ambell i anffyddiwr wedi mabwysiadu athroniaethau seciwlar,[9][10] nid oes un ideoleg neu set o ymddygiadau a gânt eu gorfodi ar anffyddwyr.[11]

  1. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Nielsen-EB
  2. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw RoweRoutledge
  3. 3.0 3.1 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw oxdicphil
  4. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw religioustolerance
  5. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw reldef
  6. 6.0 6.1 (1989) Oxford English Dictionary, Ail  “Belief in a deity, or deities, as opposed to atheism”
  7.  Merriam-Webster Online Dictionary. "belief in the existence of a god or gods"
  8. (1999) A History of God. London: Vintage. ISBN 0-09-927367-5
  9. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw honderich
  10. Fales, Evan. "Naturalism and Physicalism", yn Martin 2007, tt. 122–131
  11. Baggini 2003, tt. 3–4.

Developed by StudentB