Paentiad o wyneb rhywun â phryder cronig arnyn nhw | |
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | anhwylder gwybyddol, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae anhwylderau gorbryder yn glwstwr o anhwylderau meddwl a nodweddir gan deimladau sylweddol ac afreolus o bryder ac ofn.[1] Mae hyn yn achosi nam sylweddol ar yr unigolyn yn ogystal â sut y gall gymdeithasu a gweithio.[1] Mae gorbryder yn taro pawb yn ystod eu hoes, ond nid i'r un graddau. Gall gorbryder achosi symptomau corfforol, seicosomatig a gwybyddol, megis aflonyddwch, anniddigrwydd, blinder hawdd, anhawster canolbwyntio, cyfradd curiad y galon uwch, poen yn y frest, poen yn yr abdomen, ac amrywiaeth o symptomau amrywiol eraill.[1]
A lafar, mae'r geiriau gorbryder ac ofn (anxiety a fear) yn aml yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol. Mewn defnydd clinigol, mae iddynt ystyron gwahanol: diffinnir gorbryder fel cyflwr emosiynol annymunol lle heb ei adnabod yn union, neu'n cael ei weld yn afreolus neu'n anochel, tra bod ofn yn ymateb emosiynol a ffisiolegol i fygythiad allanol cydnabyddedig.[2] Mae'r term ymbarél anhwylder gorbryder yn cyfeirio at nifer o anhwylderau penodol sy'n cynnwys ofnau (ffobiau) neu symptomau o orbryder.[1]
Mae yna sawl anhwylder gorbryder, gan gynnwys anhwylder gorbryder cyffredinol, ffobia penodol, anhwylder pryder cymdeithasol, anhwylder pryder gwahanu, agoraffobia, anhwylder panig, a mutistiaeth ddetholus.[3][4] Gellir gwneud diagnosis o'r anhwylder unigol gan ddefnyddio'r symptomau penodol ac unigryw, neu drwy edrych ar beth a sbardunodd y digwyddiadau, ac amseriad y digwyddiadau hyn.[5] Os yw person yn cael diagnosis o anhwylder o orbryder, rhaid i weithiwr meddygol proffesiynol fod wedi gwerthuso'r person i sicrhau na ellir priodoli'r pryder i salwch meddygol neu anhwylder meddwl arall. Mae’n bosibl i unigolyn gael mwy nag un anhwylder gorbryder yn ystod ei fywyd neu ar yr un pryd ac mae anhwylderau gorbryder yn cael eu nodi gan gwrs a thaflen amser perthnasol.[6] Ar gyfer unigolion â phryder, mae yna nifer o driniaethau a strategaethau a all wella eu hwyliau, eu hymddygiad, a'u gallu i weithredu ym mywyd pob dydd.
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw DSM52