Delwedd:Mirai Suenaga with summer school uniform and K-on character style 20110305.jpg, Anime DVDs.JPG, Anime video frame.png, Wikipe-tan in Different Anime Styles.png | |
Enghraifft o'r canlynol | genre mewn ffilm, animation style |
---|---|
Math | gwaith clyweld |
Rhan o | anime and manga |
Yn cynnwys | ffilm anime, anime television program |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Talfyriad Japaneg o'r gair Saesneg "animation" ydy anime (Japaneg: アニメ) [anime] (gwrando) ac mae'n cyfeirio'n benodol at animeiddiadau wedi'u cynhyrchu yn Japan.[1]
Mae'n deillio yn ôl i 1917,[2] a daeth yn ffasiynol iawn yn Japan ers hynny. Yn yr 1980au daeth yn ffasiynol drwy'r byd. Mae'n cael ei ddarlledu ar deledu, fideo, DVD a hyd yn oed yn y theatr.
Ceir dau fath: cartwnau wedi'u gwneud gyda llaw a rhai wedi'u cynhyrchu gan gyfrifiadur.
Un esiampl o anime yw'r rhaglen Siapaneg "Sailor Moon". Mae'n sôn am bum merch sy'n stopio'r 'Negaverse' drwg rhag cymryd drosodd Tokyo.
Mae'r gair "Anime" yn tarddu o'r dywediad Ffrangeg dessin animé.[3]
Mae'r diwydiant anime yn cynnwys dros 430 o stiwdios, llawer yn enwau mawr: Studio Ghibli, Gainax a Toei Animation. Dim ond ychydig o'r farchnad domestig sydd ganddyn nhw ond talp enfawr o'r diwydiant DVD. Mae anime wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn y deng mlynedd diwaetha. Mae anime Japan wedi cael ei gopio gan nifer o wledydd eraill.