Ardal an-fetropolitan

Math o ardal llywodraeth leol yn Lloegr yw ardal an-fetropolitan (Saesneg: non-metropolitan district). Mae ardaloedd an-fetropolitan yn rhan o system dwy haen o lywodraeth leol sy'n gweithredu yn y rhan fwyaf o Loegr. Mae'r ardaloedd yn israniadau o siroedd an-fetropolitan, gan rannu pŵer a chyfrifoldeb gyda nhw.

Mae'r sir yn gyfrifol am wasanaethau mwyaf a drutaf, megis:

  • addysg
  • gwasanaethau cymdeithasol
  • prif ffyrdd
  • llyfrgelloedd
  • trafnidiaeth gyhoeddus
  • gwasanaethau tân
  • Safonau Masnach
  • gwaredu gwastraff
  • cynllunio strategol

tra bod ardaloedd an-fetropolitan yn darparu gwasanaethau, megis:

  • cynllunio lleol a rheoli adeiladau
  • tai cyngor
  • ffyrdd lleol
  • iechyd yr amgylchedd
  • marchnadoedd a ffeiriau
  • casglu ac ailgylchu sbwriel
  • mynwentydd ac amlosgfeydd
  • parciau
  • gwasanaethau hamdden
  • twristiaeth

Crëwyd y system ddwy haen hon yn 1974 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Mae llawer o ardaloedd wedi cael statws bwrdeistref trwy siarter frenhinol. Mae hyn yn golygu bod y cyngor lleol yn cael ei alw'n "gyngor bwrdeistref" yn lle "cyngor dosbarth", a bod ganddo'r hawl i benodi maer. Mae ardaloedd eraill wedi cael statws dinas trwy breinlythyrau, ond nid yw hyn yn rhoi unrhyw bwerau ychwanegol i'r cyngor lleol heblaw'r hawl i alw ei hun yn "gyngor dinas". Fodd bynnag, nid yw pob awdurdod lleol sydd â'r geiriau "dinas" neu "fwrdeistref" yn yr enw yn ardal an-fetropolitan; mae rhai yn awdurdodau unedol, mae eraill yn fwrdeistrefi metropolitan neu fwrdeistrefi Llundain.


Developed by StudentB