Enghraifft o'r canlynol | cymal, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | free upper limb region, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | braich |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn anatomeg dynol, diffinnir yr arddwrn fel 1) y carpws neu'r esgyrn carpalaidd, h.y. y cymhlyg o wyth asgwrn sy'n ffurfio'r segment ysgerbydol agosaf yn y llaw;[1][2] (2) cymal yr arddwrn neu'r cymal radio-carpol, y cymal rhwng y radiws a'r carpws;[2] a'r (3) ardal anatomegol sy'n amgylchynnu'r carpws gan gynnwys y pen pellaf o esgyrn yr elin a'r pen agosaf o'r metacarpws neu'r pump asgwrn metacarpaidd a'r cyfres o gymalau rhwng yr esgyrn hyn, a gyfeirir atynt fel cymalau'r arddwrn.[3][4] Mae'r ardal hon hefyd yn cynnwys twnnel y carpws, y pannwl radiol (foveola radialis), tynnyn traws y carpws (retincalum flexorum) a thynnyn cefnol y carpws (retinaculum extensorum).