Math | integryn pendant, maint corfforol, meintiau deilliadol ISQ, meintiau sgalar, area, geometric measure |
---|---|
Rhagflaenwyd gan | hyd |
Olynwyd gan | cyfaint |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Priodwedd meintiol yw arwynebedd (sy'n enw gwrywaidd) a mesuriad y gofod dau ddimensiwn mae’n ei orchuddio. Mesurir arwynebedd, fel arfer, mewn sgwariau e.e. milimetr sgwâr, centimetr sgwâr. Defnyddir y term 'arwyneb yr arwynebedd' am surface area.[1]
Arwynebedd, felly, yw'r lamina planar, yn y plân, a'r faint o baent sy’n angenrheidiol i orchuddio’r wyneb ag un gôt.[2] Mae'n analog dau ddimensiwn o hyd cromlin (cysyniad un dimensiwn) neu gyfaint solid (cysyniad tri dimensiwn).
Gellir mesur arwynebedd siâp trwy gymharu'r siâp â sgwariau o faint sefydlog: gweler y diagram.[3] Yn y System Ryngwladol o Unedau (OS), yr uned arwynebedd safonol yw'r metr sgwâr (wedi'i ysgrifennu fel m2), sef arwynebedd sgwâr y mae ei ochrau'n un fetr o hyd.[4] Byddai gan siâp ag arwynebedd o dri metr sgwâr yr un arwynebedd â thri sgwâr o'r fath. Mewn mathemateg, diffinnir sgwâr fel uned sydd ag arwynebedd o un, ac mae arwynebedd unrhyw siâp neu arwyneb arall yn rhif real di-ddimensiwn.
Mae yna sawl fformiwla adnabyddus ar gyfer arwynebedd siapiau syml fel trionglau, petryalau, a chylchoedd. Gan ddefnyddio'r fformwlâu hyn, gellir dod o hyd i arwynebedd unrhyw bolygon trwy rannu'r polygon yn drionglau.[5] Ar gyfer siap â ffin grom, fel rheol mae angen calcwlws i gyfrifo'r arwynebedd. Yn wir, roedd y broblem o bennu arwynebedd ffigurau plân yn gymhelliant mawr i ddatblygiad hanesyddol calcwlws.[6]
Ar gyfer siâp solet fel sffêr, côn, neu silindr, gelwir arwynebedd ei ffin yn "arwyneb yr arwynebedd".[7][8][9] Cyfrifwyd fformiwlâu ar gyfer arwynebedd siapiau syml gan yr hen Roegiaid, ond fel rheol mae cyfrifo arwynebedd siâp mwy cymhleth yn gofyn am galcwlws aml-newidyn (<i>multivariable</i>).
Mae arwynebedd yn chwarae rhan bwysig mewn mathemateg fodern. Yn ychwanegol at ei bwysigrwydd amlwg mewn geometreg a chalcwlws, mae arwynebedd yn gysylltiedig â'r diffiniad o benderfynyddion mewn algebra llinol, ac mae'n briodwedd sylfaenol arwynebau mewn geometreg wahaniaethol. Mewn dadansoddiad, diffinnir arwynebedd is-set o'r blanau gan ddefnyddio mesur Lebesgue,[10] er nad yw pob is-set yn fesuradwy.[11] Yn gyffredinol, mae arwynebedd mewn mathemateg-uwch yn cael ei ystyried yn achos arbennig o gyfaint ar gyfer rhanbarthau dau-ddimensiwn.[7]
Gellir diffinio arwynebedd trwy ddefnyddio gwirebau, gan ei ddiffinio fel swyddogaeth casgliad o rai ffigurau plân i'r set o rifau real. Gellir profi bod ffwythiant o'r fath yn bodoli.