Math | osgo |
---|---|
Rhan o | ioga |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Osgo neu safle'r corff yw asana, sy'n derm traddodiadol ar gyfer safle myfyrdod,[1] ac sy'n cynnwys safleoedd ioga hatha ac ioga modern fel rhan o ymarfer y corff. Ceir safleoedd gwahanol , gan gynnwys rhai lle mae'r person yn lledorwedd neu'n sefyll, safleoedd tro (neu gordeddu) a chydbwyso. Mae Sutras Ioga Patanjali yn diffinio "asana" fel ystum corfforol sy'n gyson ac yn gyffyrddus".[2] Mae Patanjali yn sôn am y gallu i eistedd am gyfnodau estynedig.[2]
Mae'r Goraksha Sataka o'r 10fed neu'r 11g ac Ioga Hatha Pradipika o'r 15g yn nodi 84 gwahanol asana; mae'r Hatha Ratnavali o'r 17g hefyd yn nodi rhestr wahanol o 84 asanas, gan ddisgrifio rhai ohonynt. Yn yr 20g, roedd cenedlaetholdeb Indiaidd yn ffafrio diwylliant corfforol mewn ymateb i wladychiaeth (colonialism) Lloegr. Yn yr amgylchedd hwnnw, dysgodd arloeswyr fel Yogendra, Kuvalayananda, a Krishnamacharya systemau newydd o asanas (gan ymgorffori systemau ymarfer corff a chadw'n heini yn ogystal â'r ioga hatha traddodiadol).
Ymhlith disgyblion Krishnamacharya roedd athrawon Indiaidd dylanwadol gan gynnwys Pattabhi Jois, sylfaenydd ioga Ashtanga vinyasa, a BKS Iyengar, sylfaenydd ioga Iyengar. Gyda'i gilydd fe wnaethant ddisgrifio cannoedd o asanas ychwanegol, a thyfodd poblogrwydd ioga, drwy ei ddwyn i'r Gorllewin. Dyfeisiwyd llawer mwy o asanas ers y llyfr dylanwadol Golau ar Ioga 1966 gan Iyengar a ddisgrifiodd tua 200 o asanas. Darluniwyd cannoedd yn rhagor gan Dharma Mittra .
Honnwyd ers yr oesoedd canol fod asanas yn datblygu ochr ysbrydol person yn ogystal a'r ochr corfforol, a hynny yn hen destunau ioga hatha. Yn fwy diweddar, mae astudiaethau wedi darparu tystiolaeth fod ioga'n gwella hyblygrwydd y corff, cryfder a chydbwysedd; lleihau straen ac yn benodol i leddfu rhai afiechydon fel asthma[3][4] a chlefyd y siwgwr.[5]
Mae gwahanol asanas wedi ymddangos yn niwylliant India ers canrifoedd lawer a cheir llawer o gelf grefyddol Indiaidd lle darlunir Bwdha, Jain tirthankaras, a Shiva mewn safle lotws ac asanas myfyrio eraill megis y lalitasana. Gyda phoblogrwydd ioga, mae asanas yn gyffredin mewn nofelau a ffilmiau yn ogystal ac mewn hysbysebu.