Enghraifft o'r canlynol | cyfandir, part of the world, rhanbarth |
---|---|
Rhan o | y Ddaear, Ewrasia, Affrica-Ewrasia, Ostfeste, Afro-Asia |
Yn cynnwys | Dwyrain Asia, De-ddwyrain Asia, Canolbarth Asia, De Asia, Y Dwyrain Canol, Gogledd Asia, De-orllewin Asia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asia yw cyfandir mwyaf a mwyaf poblog y Ddaear, a leolir yn bennaf yn Hemisffer y Dwyrain a'r Gogledd. Mae'n rhannu ehangdir cyfandirol Ewrasia â chyfandir Ewrop, a thir cyfandirol Affro-Ewrasia ag Affrica ac Ewrop . Mae Asia'n cwmpasu ardal o tua 44,579,000 km sg (17,212,000 milltir sg), tua 30% o gyfanswm arwynebedd tir y Ddaear ac 8.7% o gyfanswm arwynebedd y Ddaear. Bu'r cyfandir yn gartref i fwyafrif y boblogaeth ddynol ers amser maith,[1] a dyma safle llawer o'r gwareiddiadau cyntaf yr hil ddynol. Mae ei 4.7 biliwn o bobl[2] yn cyfrif am tua 60% o boblogaeth y byd.[3]
Yn gyffredinol, mae Asia wedi'i ffinio i'r dwyrain gan y Cefnfor Tawel, i'r de gan Gefnfor India, ac i'r gogledd gan Gefnfor yr Arctig. Mae ffin Asia ag Ewrop yn adeiladwaith hanesyddol a diwylliannol, gan nad oes gwahaniad ffisegol a daearyddol clir rhyngddynt. Mae braidd yn fympwyol ac wedi symud ers ei genhedlu cyntaf mewn hynafiaeth glasurol . Mae rhannu Ewrasia yn ddau gyfandir yn adlewyrchu gwahaniaethau diwylliannol, ieithyddol ac ethnig y Dwyrain-Gorllewin, y mae rhai ohonynt yn amrywio ar sbectrwm yn hytrach na gyda llinell solat. Lleolir Asia i'r dwyrain o Gamlas Suez ac i'r dwyrain o'r Culfor Twrcaidd, y Mynyddoedd Wral ac Afon Wral, ac i'r de o Fynyddoedd y Cawcasws a'r Môr Caspia a'r Môr Du, gan ei wahanu oddi wrth Ewrop.[4]
Daeth Tsieina ac India i fod yr economïau mwyaf yn y byd rhwng 1 i 1800 OC. Roedd Tsieina'n bŵer economaidd mawr a denodd lawer i'r dwyrain,[5][6][7] ac iddyn nhw roedd cyfoeth a ffyniant chwedlonol diwylliant hynafol India yn personoli Asia, gan ddenu masnach, fforio a gwladychiaeth Ewropeaidd. Mae'r darganfyddiad o lwybr traws-Iwerydd o Ewrop i America gan Columbus wrth chwilio am lwybr i India'n dangos y diddordeb dwfn hwn. Daeth y Ffordd y Sidan yn brif lwybr masnachu dwyrain-gorllewin yng nghefn g wlad Asia tra safai Culfor Malacca fel prif lwybr morol. Mae Asia wedi arddangos dynameg economaidd (yn enwedig Dwyrain Asia) yn ogystal â thwf aruthrol yn y boblogaeth yn ystod yr 20g, ond mae twf cyffredinol y boblogaeth wedi gostwng ers hynny.[8] Asia oedd man geni y rhan fwyaf o grefyddau prif ffrwd y byd gan gynnwys Hindŵaeth, Zoroastrianiaeth, Iddewiaeth, Jainiaeth, Bwdhaeth, Conffiwsiaeth, Taoaeth, Cristnogaeth, Islam, Sikhaeth, yn ogystal â llawer o grefyddau eraill.
O ystyried ei maint a'i hamrywiaeth, efallai bod gan y cysyniad o Asia - enw sy'n dyddio'n ôl i hynafiaeth glasurol - fwy i'w wneud â daearyddiaeth ddynol na daearyddiaeth ffisegol. Amrywia'n fawr o fewn ei rhanbarthau o ran grwpiau ethnig, diwylliannau, amgylcheddau, economeg, cysylltiadau hanesyddol a systemau llywodraethu. Mae ganddi hefyd gymysgedd o lawer o hinsoddau gwahanol yn amrywio o'r de cyhydeddol i'r anialwch poeth yn y Dwyrain Canol, ardaloedd tymherus yn y dwyrain a chanol y cyfandir i ardaloedd is-arctig a phegynol yn Siberia.