Asiantaeth lywodraethol yw asiantaeth cudd-wybodaeth sy'n gyfrifol am gasglu a dadansoddi gwybodaeth a chudd-wybodaeth i gefnogi gorfodi'r gyfraith, diogelwch cenedlaethol, amddiffyn milwrol, ac amcanion polisi tramor. Gall dulliau casglu cudd-wybodaeth fod yn gudd neu'n agored, a gall gynnwys ysbïwriaeth, codi negeseuon cyfathrebu, cêl-ddadansoddi, cydweithio â sefydliadau eraill, ac asesu ffynonellau cyhoeddus. Mae rhai asiantaethau hefyd yn cyflawni gweithredoedd cudd i gefnogi amcanion eu llywodraeth.