August Wilhelm Schlegel | |
---|---|
Portread o August Wilhelm Schlegel gan Adolf Hohneck. | |
Ganwyd | 8 Medi 1767 Hannover |
Bu farw | 12 Mai 1845 Bonn |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Hannover |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, cyfieithydd, ysgolhaig Sansgrit, athronydd, bardd, beirniad llenyddol, hanesydd llenyddiaeth, Rhufeinydd, dramodydd, academydd, academydd mewn Sanskrit, llenor, hanesydd celf |
Cyflogwr |
|
Mudiad | Rhamantiaeth, German Romanticism, Jena Romanticism |
Tad | Johann Adolf Schlegel |
Priod | Caroline Schelling |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf |
llofnod | |
Ysgolhaig, beirniad llenyddol a theatr, bardd, a chyfieithydd o'r Almaen oedd August Wilhelm Schlegel (8 Medi 1767 – 12 Mai 1845).[1]
Ganed ef yn Hannover, Etholyddiaeth Hannover, a oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Astudiodd yn Göttingen, a gyda'i frawd Friedrich Schlegel golygydd Das Athenäum (1798–1800), prif gyfnodolyn y mudiad Rhamantaidd Almaenig a fu'n cyhoeddi gwaith Novalis ac eraill.
Bu August Wilhelm Schlegel yn enwog yn bennaf am ei gyfieithiadau barddonol o ddramâu William Shakespeare, ar y cyd â Ludwig Tieck ac eraill, ac am ei gyfres o ddarlithoedd Über dramatische Kunst und Literatur (1809–11), y rheiny a droswyd i'r Saesneg (Lectures on Dramatic Art and Literature, 1815) gan John Black ac a gâi gymaint o ddylanwad ar y bardd William Wordsworth a'r beirniad William Hazlitt. Tynnodd Samuel Taylor Coleridge ar syniadau a rhannau o waith Schlegel, heb gydnabyddiaeth, yn ei gyfres o ddarlithoedd ym 1811.
Bu farw August Wilhelm Schlegel yn Bonn, Teyrnas Prwsia, yn 77 oed.