Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 4,225,384 |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser Canol Indonesia |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Swnda Lleiaf, Bali |
Sir | Bali |
Gwlad | Indonesia |
Arwynebedd | 5,632.86 km² |
Uwch y môr | 3,031 metr |
Gerllaw | Cefnfor India, Bali Sea |
Cyfesurynnau | 8.335°S 115.0881°E |
Hyd | 150 cilometr |
Mae Bali yn un o ynysoedd Indonesia, i'r dwyrain o ynys Jawa ac i'r gorllewin o ynys Lombok, gyda chulfor rhyngddynt. Mae'n un o daleithiau'r wlad hefyd.
Mae'n ynys weddol fechan o'i chymharu a rhai o ynysoedd eraill Indonesia, 5,632.86 km², gyda poblogaeth o 3,151,000 yn 2005. Y brifddinas yw Denpasar, ac ymysg dinasoedd pwysig eraill mae Singaraja ar yr arfordir gogleddol ac Ubud sy'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid sydd a diddordeb yn niwylliant yr ynys. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o ynysoedd eraill Indonesia, lle mae dilynwyr Islam yn y mwyafrif, mae'r rhan fwyaf (93%) o drigolion Bali yn ddilynwyr Hindwaeth, neu yn hytrach gymysgedd o Hindwaeth a Bwdhaeth gyda elfennau lleol. Y mynydd uchaf yw Mynydd Agung (Indoneseg: Gunung Agung), 3,142 m (10,308 troedfedd) o uchder; llosgfynydd sy'n dal yn fyw ac yn ffrwydro o dro i dro.
Enillodd yr ynys enwogrwydd byd eang am ei diwylliant a'i chrefftau, yn cynnwys arlunio, cerflunio, dawns a cherddoriaeth. Mae'n gyrchfan boblogaidd iawn i dwristaid, er i'r diwydiant yma gael ei effeithio'n ddifrifol gan y bomiau a ffrwydrodd ar 12 Hydref 2002 yn Kuta, un o'r trefi arfordirol sy'n dibynnu ar dwristiaeth. Lladdwyd 202 o bobl. Bu ymosodiad arall ar raddfa lai yn 2005.