Bandi

Bandi
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon, sport with racquet/stick/club, chwaraeon tîm Edit this on Wikidata
Mathhoci, sglefrio iâ, chwaraeon peli, pêl-droed Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://worldbandy.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Camp tîm gaeaf yw bandi[1] (Saesneg: bandy) lle mae pêl yn cael ei tharo â ffon grwca. Mae'r ddau dîm yn gwisgo esgidiau sglefrio ar arwyneb rhew mawr (naill ai dan do neu yn yr awyr agored) tra'n defnyddio ffyn i gyfeirio pêl at gôl y tîm arall.[2]

Gêm bandi yn y Swistir

Mae'n cael ei ystyried yn fersiwn hŷn, gwreiddoil o'r gêm hoci iâ. Mae bandi yn cael ei chwarae yn yr awyr agored ar gae iâ gwastad, ac mae ganddo reolau tebyg iawn i bêl-droed. Y pwerau mwyaf yn y gamp hon yw Norwy, Sweden, y Ffindir, Rwsia, Kazakhstan, yr Unol Daleithiau a Chanada. Dyma'r unig gamp Olympaidd Gaeaf a gydnabyddir gan yr IOC nad yw wedi'i chynnwys yn rhaglen Gemau Olympaidd y Gaeaf. Mae hefyd yn cael ei gydnabod gan Ffederasiwn Chwaraeon Prifysgolion Rhyngwladol.[3]

  1. "Bandi". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2024.
  2. "Edsbyn Sandviken SM – Final in Upssala". YouTube. Cyrchwyd 7 February 2014.
  3. International University Sports Federation (FISU) officially recognized bandy as a sport

Developed by StudentB