Seren wen ar faes glas yw baner Somalia. Mae'r seren yn symboleiddio undod, ac mae ei phum pwynt yn cynrychioli'r bum ardal lle mae'r hil Somaliaidd yn trigo: yng ngwledydd Ethiopia, Cenia, a Jibwti, ac yn y ddwy gyn-drefedigaeth Eidalaidd a Phrydeinig, sydd bellach gyda'i gilydd yn wladwriaeth Somalia.
Mabwysiadwyd y faner ar 12 Hydref 1954 gan y Diriogaeth Ymddiriedolaeth Eidalaidd ar sail baner las a gwyn y Cenhedloedd Unedig, oedd yn arolygu'r diriogaeth ar y pryd. Fe'i chedwir yn sgîl annibyniaeth Somalia ym 1960.
Mae'r 5 pegwn ar y seren yn symbol o'r pum tiriogaeth Somali sy'n cympasu lle mae'r Somaliaid yn byw ac yn creu Somalia Fawr sef: Somalia Eidalaidd, Somalia Brydeinig, Jibwti, Ogaden (rhan o Ethiopia bellach) a gogledd-ddwyrain Cenia.