Beirdd yr Uchelwyr

Beirdd yr Uchelwyr yw'r enw a ddefnyddir i gyfeirio at y dosbarth o feirdd proffesiynol a ganai i uchelwyr Cymru am gyfnod o dair canrif ar ddiwedd yr Oesoedd Canol a dechrau'r cyfnod modern. Daethant i'r amlwg ar ôl i'r beirdd proffesiynol golli nawdd y tywysogion Cymreig yn sgil cwymp Llywelyn Ein Llyw Olaf yn 1282 a'r goresgyniad Seisnig. Roedd Beirdd y Tywysogion wedi canu i'r tywysog a'i lys (yn bennaf) ond canai'r to newydd i'r uchelwyr a etifeddasant gyfran o rym gweinyddol y tywysogion ar lefel lleol dan y gyfundrefn newydd. Am fod y cywydd yn gyfrwng mor nodweddiadol o'u gwaith cyfeirir atynt weithiau fel y Cywyddwyr, olynwyr y Gogynfeirdd, ond mae hyn yn gamarweiniol braidd am eu bod yn canu ar sawl mesur arall heblaw'r cywydd, gan gynnwys rhai o hoff fesurau Beirdd y Tywysogion. Cedwir gwaith dros 150 o'r beirdd hyn yn y llawysgrifau ac erys canran sylweddol o'u gwaith heb ei gyhoeddi.


Developed by StudentB