Berlin

Berlin
Mathsedd y llywodraeth, metropolis, Einheitsgemeinde yr Almaen, dinas Hanseatig, bwrdeistref trefol yr Almaen, tref wedi'i rhannu gan ffin, dinas-wladwriaeth, independent city in Berlin, y ddinas fwyaf, dinas fawr, taleithiau ffederal yr Almaen, prifddinas ffederal, tref wedi'i rhannu gan ffin Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlwybr Ewropeaidd E55 Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,782,202 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1244 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKai Wegner Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCentral European Standard Time (GMT+1) Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iKyiv Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Almaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolArdal Fetropolitan Berlin/Brandenburg, crynhoad Berlin Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd891.12 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr34 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Spree, Großer Wannsee, Llyn Tegel, Havel, Dahme, Müggelsee, Aalemannkanal, Camlas Neukölln Ship, Camlas Luisenstadt, Camlas Teltow, Camlas Landwehr, Camlas Westhafen, Camlas Gosen, Tegeler Fließ, Berlin-Spandau Ship Canal Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBrandenburg Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.52°N 13.38°E Edit this on Wikidata
Cod post10115–14199 Edit this on Wikidata
DE-BE Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholAbgeordnetenhaus of Berlin Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Governing Mayor of Berlin Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKai Wegner Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas yr Almaen a dinas fwyaf Gorllewin Ewrop yw Berlin, gydag oddeutu 3,782,202 (31 Rhagfyr 2023) o drigolion.[1] Mae'n sefyll ar lannau afonydd Spree ac Havel yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Yn un o 16 talaith gyfansoddol yr Almaen, mae Berlin wedi'i hamgylchynu gan dalaith Brandenburg, ac yn uno gyda Potsdam, prifddinas Brandenburg. Mae gan ardal drefol Berlin boblogaeth o oddeutu 4.5 miliwn a hi yw'r ail ardal drefol fwyaf poblog yn yr Almaen ar ôl y Ruhr.[2] Mae gan brifddinas-ranbarth Berlin-Brandenburg oddeutu chwe miliwn o drigolion a hi yw trydydd rhanbarth metropolitan mwyaf yr Almaen ar ôl rhanbarthau Rhine-Ruhr a Rhine-Main.[3]

Mae Berlin yn pontio glannau Afon Spree, sy'n llifo i mewn i Afon Havel (llednant Afon Elbe) ym mwrdeistref orllewinol Spandau. Ymhlith prif nodweddion topograffig y ddinas mae'r nifer o lynnoedd yn y bwrdeistrefi gorllewinol a de-ddwyreiniol a ffurfiwyd gan afonydd Spree, Havel a Dahme (y mwyaf ohonynt yw Llyn Müggelsee). Oherwydd ei leoliad yn y Gwastadedd Ewropeaidd, caiff Berlin hinsawdd dymhorol dymherus. Mae tua thraean o ardal y ddinas yn cynnwys coedwigoedd, parciau, gerddi, afonydd, camlesi a llynnoedd.[4] Gorwedd y ddinas yn ardal dafodiaith Canol yr Almaen, gyda thafodiaith Berlin yn amrywiad o'r tafodieithoedd a elwir yn "Lusatian-New Marchian".

Cofnodwyd Berlin fel anheddiad dynol yn gyntaf yn y 13g: mae ei safle ar groesfan rhwng dau lwybr masnach hanesyddol pwysig.[5] Daeth Berlin yn brifddinas Margraviate Brandenburg (1417–1701), Teyrnas Prwsia (1701-1918), Ymerodraeth yr Almaen (1871 –1918), Gweriniaeth Weimar (1919–1933), a'r Drydedd Reich (1933–1945).[6] Berlin yn y 1920au oedd y drydedd fwrdeistref fwyaf yn y byd.[7] Ar ôl yr Ail Ryfel Byd a'i meddiant dilynol gan y gwledydd buddugol, rhannwyd y ddinas: daeth Gorllewin Berlin yn diriogaeth de facto yng Ngorllewin yr Almaen, wedi'i amgylchynu gan Wal Berlin (1961-1989) a thiriogaeth Dwyrain yr Almaen. Cyhoeddwyd bod Dwyrain Berlin yn brifddinas Dwyrain yr Almaen, tra daeth Bonn yn brifddinas Gorllewin yr Almaen. Yn dilyn ailuno'r Almaen ym 1990, daeth Berlin yn brifddinas yr Almaen gyfan unwaith eto.[8]

Mae Berlin yn ddinas a gaiff ei chydnabod yn fyd-eang am ei diwylliant, ei gwleidyddiaeth, ei chyfryngau a'i gwyddoniaeth.[9][10][11][12] Mae ei heconomi yn seiliedig ar gwmnïau uwch-dechnoleg a'r sector gwasanaethau, gan gwmpasu ystod amrywiol o ddiwydiannau creadigol, cyfleusterau ymchwil, corfforaethau cyfryngau a lleoliadau addas ar gyfer cynadleddau enfawr.[13][14] Mae Berlin yn gweithredu fel canolbwynt cyfandirol ar gyfer traffig awyr a rheilffordd ac mae ganddi rwydwaith cludiant cyhoeddus cymhleth ac effeithiol iawn. Mae'r metropolis yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Ceir diwydiannau arwyddocaol hefyd gan gynnwys TG, fferyllol, peirianneg fiofeddygol, technoleg lân, biotechnoleg, adeiladu ac electroneg.

  1. "Ergebnisse Zensus 2011". Statistische Ämter des Bundes und der Länder (yn German). 31 Mai 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-05. Cyrchwyd 31May 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. citypopulation.de quoting Federal Statistics Office. "Germany: Urban Areas". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-03. Cyrchwyd 2021-01-28.
  3. "Daten und Fakten zur Hauptstadtregion". www.berlin-brandenburg.de. 4 Hydref 2016. Cyrchwyd 23 Chwefror 2019.
  4. Schulte-Peevers, Andrea; Parkinson, Tom (2004). Gren Berlin. Lonely Planet. ISBN 9781740594721. Cyrchwyd 9 Hydref 2009.
  5. "Niederlagsrecht" [Settlement rights] (yn Almaeneg). Verein für die Geschichte Berlins. Awst 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2015.
  6. "Documents of German Unification, 1848–1871". Modern History Sourcebook. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-14. Cyrchwyd 18 Awst 2008.
  7. "Topographies of Class: Modern Architecture and Mass Society in Weimar Berlin (Social History, Popular Culture and Politics in Germany)". www.h-net.org. Cyrchwyd 9 Hydref 2009.
  8. "Berlin Wall". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 18 Awst 2008.
  9. "Berlin – Capital of Germany". German Embassy in Washington. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Ionawr 2012. Cyrchwyd 18 Awst 2008.
  10. Davies, Catriona (10 April 2010). "Revealed: Cities that rule the world – and those on the rise". CNN. Cyrchwyd 11 April 2010.
  11. Sifton, Sam (31 Rhagfyr 1969). "Berlin, the big canvas". The New York Times. Cyrchwyd 18 Awst 2008. Gweler hefyd: "Sites and situations of leading cities in cultural globalisations/Media". GaWC Research Bulletin 146. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-02. Cyrchwyd 18 Awst 2008.
  12. "Global Power City Index 2009". Institute for Urban Strategies at the Mori Memorial Foundation. 22 Hydref 2009. http://www.mori-m-foundation.or.jp/english/research/project/6/pdf/GPCI2009_English.pdf. Adalwyd 29 Hydref 2009.
  13. "ICCA publishes top 20 country and city rankings 2007". ICCA. Cyrchwyd 18 Awst 2008.
  14. "Berlin City of Design" (Press release). UNESCO. http://portal.unesco.org/culture/en/ev.php-URL_ID=29376&URL_DO=DO_TOPIC&URL_SECTION=201.html. Adalwyd 18 Awst 2008.

Developed by StudentB