Enghraifft o'r canlynol | cyflafan |
---|---|
Dyddiad | 30 Ionawr 1972 |
Lladdwyd | 14 |
Rhan o | yr Helyntion |
Lleoliad | Derry |
Enw brodorol | Domhnach na Fola |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bloody Sunday yw'r enw a roddir ar y gyflafan a ddigwyddodd yn Derry, Gogledd Iwerddon, ar ddydd Sul, 30 Ionawr 1972 pan saethodd byddin Lloegr 26 o sifiliaid, gan ladd 14.
Credir fod y gyflafan wedi bod yn ergyd farwol i'r mudiad hawliau sifil di-drais yng Ngogledd Iwerddon ac yn hwb sylweddol i'r IRA ac eraill a ddadleai mai ymladd arfog oedd yr unig ateb.
Saethwyd 26 o brotestwyr hawliau sifil gan filwyr Prydeinig, yn bennaf gan uned o 2 Para (The 2nd Battalion The Parachute Regiment). Lladdwyd 13, 6 ohonynt yn blant o 17 oed, ar y dydd gydag un arall yn marw bedwar mis yn ddiweddarach o ganlyniad i anafiadau gafwyd yn y digwyddiad. Tystiodd pobl a welodd y digwyddiad, gan gynnwys gohebwyr, fod pawb a saethwyd heb arfau. Roedd pum o'r rhai a glwyfwyd wedi cael eu saethu yn eu cefn. Roedd y rhai a laddwyd yn cynnwys offeiriad Catholig a geisiodd ymgeleddu un o'r sifiliaid eraill a oedd yn gorwedd ar lawr wedi'i saethu.
Cafwyd ymholiad swyddogol i'r digwyddiad dan arolygiaeth yr Ustus Wiggins a dderbyniodd adroddiad y Fyddin Brydeinig. Ni chafodd neb o'r milwyr yn euog ac anrhydeddwyd aelodau o 2 Para gan Frenhines y DU yn ddiweddarach.