Enghraifft o'r canlynol | math o chwaraeon |
---|---|
Math | chwaraeon gaeaf, chwaraeon tîm, sledio, chwaraeon unigolyn, chwaraeon rhew |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Chwaraeon gaeaf yw bobsled, lle mae timau o ddau neu bedwar yn llithro lawr trac iâ cul, wedi ei fancio sy'n twistio ar gar llusg wedi ei bweru gan ddisgyrchiant. Daeth yr amryw o fathau o geir llusg i fodolaeth cyn i'r traciau cyntaf gael eu adeiladu yn Saint-Moritz, lle addaswyd y bobslediau cyntaf i ddod yn geir llusg mwy y Luge a'r Ysgerbwd er mwyn cludo teithwyr. Tarddiad y tri math o geir llusg oedd ceir llusg y bechgyn dosbarthu a toboganau. Datblygodd cystadleuaeth yn ddiweddarach, ac adeiladodd perchennog gwesty Caspar Badrutt y trac cyntaf ym tua 1870, er mwyn amddiffyn y dosbarth gweithiol a'r ymwelwyr cyfoethog ar strydoedd Saint-Moritz. Mae wedi gwesteio'r chwaraeon mewn dau o'r Gemau Olympaidd ac mae'r trac yn dal i gael ei ddefnyddio hyd heddiw.
Llywodraethir cystadlaethau bobsled gan y Fédération Internationale de Bobsleigh et de Tobogganing (FIBT), a caiff cystadlaethau cenedlaethol eu llywodraethu gan gyrff megis yr United States Bobsled and Skeleton Federation a Bobsleigh Canada Skeleton.