Delwedd:Borobudur-Nothwest-view.jpg, Pradaksina.jpg | |
Math | Buddhist temple, safle archaeolegol, Candi o Indonesia, atyniad twristaidd |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Adeiladau Teml Borobudur |
Lleoliad | Canolbarth Jawa, Magelang |
Sir | Magelang, Yogyakarta |
Gwlad | Indonesia |
Arwynebedd | 25.38 ha, 62.57 ha |
Cyfesurynnau | 7.60793°S 110.20384°E |
Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Mae Borobudur yn deml Fwdhaidd (o'r traddodiad Mahayana) ar ynys Jafa, Indonesia. Mae'n dyddio o'r 9g ac yn cynnwys naw gwahanol lefel, y chwech isaf yn sgwar a'r tri uchaf yn grwn. Mae 2,672 o baneli cerfluniau a 504 cerflun o'r Bwda. Ar ran uchaf y deml mae 72 stwpa, pob un yn cynnwys cerflun o'r Bwdha, yn amgylchynu stwpa mawr canolog, sy'n wag. Saif rhyw 40 km i'r gogledd-orllewin o Yogyakarta yng nghanolbarth yr ynys.
Gall pererinion ddilyn taith o waelod y deml i'r rhan uchaf, gan basio trwy y tair lefel yn y gosmoleg Fwdaidd, sef Kamadhatu (byd y chwantau), Rupadhatu (byd y ffurfiau) ac Arupadhatu (byd y di-ffurf).
Nid oes cofnod ysgrifenedig o bwy a adeiladodd Borobudur na pha bryd, ond ystyrir i'r gwaith ddechrau tua 800 a'i orffen rhyw 75 mlynedd wedyn. Credir na ddefnyddiwyd Borobudur wedi i Fwdiaeth ddirywio ar ynys Jafa yn y 14g a throedigaeth y mwyafrif o'r boblogaeth i Islam. Mae llawer o waith wedi ei wneud i drwsio a diogelu'r deml yn y blynyddoedd diwethaf, a Borobudur yw'r gyrchfan fwyaf poblogaidd i dwristiaid yn Indonesia.