Botaneg

Botaneg
Enghraifft o'r canlynoldisgyblaeth academaidd, cangen o fywydeg, pwnc gradd, arbenigedd, cangen o wyddoniaeth Edit this on Wikidata
Mathbywydeg Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmorffoleg planhigion, atgenhedlu planhigion, ffisioleg planhigion, geneteg planhigion, Bioleg datblygiad esblygiadol planhigion, ecoleg planhigion, anatomeg planhigion, cymdeithaseg planhigion, llysddaearyddiaeth, cemeg planhigion, ffenoleg, dadansoddi paill, paleofotaneg, vegetation Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae botaneg (o'r Groeg: botaníké [epistémé], "gwyddor planhigion"), a elwir hefyd yn fywydeg planhigion, ffeitoleg neu lysieueg, yn wyddoniaeth bywyd planhigion ac yn gangen o fywydeg. Mae'r botanegydd (neu'r ffeitolegydd) yn wyddonydd sy'n arbenigo yn y maes hwn. Daw'r term "botaneg" o'r gair Groeg Hynafol βοτάνη sy'n golygu "porfa", "perlysiau", "glaswellt", neu "borthiant"; ac mae βοτάνηyn ei dro'n deillio o βόσκειν (boskein), "bwydo" neu "pori".[1][2][3] Yn draddodiadol, mae botaneg hefyd wedi cynnwys astudiaeth o ffyngau ac algâu a hynny gan ymeicolegydd a'r ffeicolegydd, yn y drefn honno, gydag astudiaeth o'r tri grŵp hyn o organebau yn parhau o fewn maes diddordeb y Gyngres Fotaneg Ryngwladol.

Mae botaneg yn cynnwys graddfa eang o ddisbyglaethau gwyddonol sy'n astudio strwythur, tyfiant, atgenhedliad, metabolaeth, datblygiad, afiechydon, ecoleg, ac esblygiad planhigion.

Ar ddechrau'r 21g roedd botanegwyr (yn yr ystyr llym) yn astudio tua 410,000 o rywogaethau o blanhigion tir gyda rhyw 391,000 ohonynt yn blanhigion fasgwlaidd (gan gynnwys tua 369,000 o rywogaethau o blanhigion blodeuol),[4] ac mae tua 20,000 yn bryoffytau.[5]

Dechreuodd botaneg yn y cyfnod cynhanes gyda llysiau rhinweddol gydag phobol yn ymdrechu'n gynnar i adnabod - ac yn ddiweddarach amaethu - planhigion a oedd yn fwytadwy, yn wenwynig, ac o bosibl yn feddyginiaethol, gan ei wneud yn un o'r ymdrechion cyntaf i ymchwilio ac arbrofi. Roedd gerddi meddygol yr Oesoedd Canol, a oedd yn aml ynghlwm wrth fynachlogydd, yn cynnwys planhigion a allai gael budd meddyginiaethol. Roeddent yn rhagflaenwyr y gerddi botaneg cyntaf a gysylltwyd â phrifysgolion, ac a sefydlwyd o'r 1540au ymlaen. Roedd y gerddi hyn yn hwyluso'r astudiaeth academaidd o blanhigion. Yr ymdrechion i gatalogio a disgrifio eu casgliadau oedd dechreuadau tacsonomeg planhigion, a arweiniodd yn 1753 at y system finomaidd o enwi Carl Linnaeus sy'n parhau i gael ei defnyddio hyd heddiw ar gyfer enwi pob rhywogaeth fiolegol.

Yn y 19g a'r 20g, datblygwyd technegau newydd ar gyfer astudio planhigion, gan gynnwys dulliau microsgopeg optegol a delweddu celloedd byw, microsgopeg electron, dadansoddiad o rif cromosom, cemeg planhigion a strwythur a swyddogaeth ensymau a phroteinau eraill. Yn ystod dau ddegawd olaf yr 20g, manteisiodd botanegwyr ar dechnegau dadansoddi genetig moleciwlaidd, gan gynnwys genomeg a phroteomeg a dilyniannau DNA i ddosbarthu planhigion yn fwy cywir.

Mae botaneg fodern yn bwnc eang, amlddisgyblaethol gyda chyfraniadau o'r rhan fwyaf o feysydd gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae pynciau ymchwil yn cynnwys astudio strwythur planhigion, twf a gwahaniaethu, atgenhedlu, biocemeg a metaboledd cynradd, cynhyrchion cemegol, datblygiad, clefydau, perthnasoedd esblygiadol, systemateg, a thacsonomeg planhigion. Themâu amlycaf gwyddor planhigion yr 21g yw geneteg foleciwlaidd ac epigeneteg, sy'n astudio mecanweithiau a rheolaeth mynegiant genynnau wrth wahaniaethu rhwng celloedd a meinweoedd planhigion. Mae gan ymchwil botanegol gymwysiadau amrywiol wrth ddarparu prif fwydydd, deunyddiau megis pren, olew, rwber, ffibr a chyffuriau, mewn garddwriaeth fodern, amaethyddiaeth a choedwigaeth, lluosogi planhigion, bridio ac addasu genetig, yn y synthesis o gemegau a deunyddiau crai ar gyfer adeiladu a chynhyrchu ynni, mewn rheolaeth amgylcheddol, a chynnal bioamrywiaeth.

  1. Liddell & Scott 1940.
  2. Gordh & Headrick 2001.
  3. Online Etymology Dictionary 2012.
  4. RGB Kew 2016.
  5. The Plant List & 2013.

Developed by StudentB