Bradley Wiggins (2015) | |
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Bradley M Wiggins |
Llysenw | Wiggo |
Dyddiad geni | 28 Ebrill 1980 |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Trac a Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Treial Amser / Pursuit / Dygnwch |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2002–2003 2004–2005 2006–2007 2008 |
La Francaise des Jeux Crédit Agricole Cofidis Team High Road |
Prif gampau | |
Pencampwr y Byd x6 Pencampwr Prydain Gemau Olympaidd Gemau Olympaidd Gemau Olympaidd x2 Gemau'r Gymanwlad x2 | |
Golygwyd ddiwethaf ar 16 Medi 2007 |
Seiclwr proffesiynol Seisnig ydy Syr Bradley Marc Wiggins, CBE (ganwyd 28 Ebrill 1980, Ghent, Gwlad Belg). Mae'n arbenigo mewn seiclo trac a ffordd. Enillodd dair medal ar y trac yn Gemau Olympaidd yr Haf Athen 2004. Yn Gorffennaf 2012 enillodd Wiggins y Tour de France, y seiclwr cyntaf Seisnig i ennill y Tour.
Ganed Bradley yn fab i seiclwr proffesiynol Awstralaidd, Gary Wiggins, ond gwahanodd ei rieni ac aeth i fyw efo'i fam i Maida Vale, Llundain. Yn dilyn gyrfa ei dad, dechreuodd seiclo yn ifanc, gan rasio yn Velodrome Herne Hill, de Llundain yn 12 oed.[1]
Yng Ngemau Olympaidd Sydney yn 2000, enillodd Wiggins y fedal efydd yn y pursuit tîm. Yng Ngemau Olympaidd Athen 2004, enillodd y fedal aur yn y pursuit unigol, 4 km, arian yn y pursuit tîm ac efydd yn y Madison gyda Rob Hayles.
Yn 2001 arwyddodd Wiggins gytundeb gyda thîm proffesiynol ffordd Linda McCartney Racing Team cyn iddo ddod i ben yn gynnar yn 2001.[2] Yn 2002 a 2003, reidiodd dros dîm proffesiynol Ffrengig La Francaise des Jeux; yn 2004 a 2005, dros dîm proffesiynol Ffrengig Crédit Agricole, a reidiodd yn Giro d'Italia 2005. Symudodd i dîm Ffrengig Cofidis yn 2006, a chystadleuodd yn Tour de France 2006 a 2007.
Yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd a argraffwyd 31 Rhagfyr 2004, gwnaethwyd ef yn OBE i gydnabod ei wasanaeth i chwaraeon.
Dychwelodd Wiggins i reidio trac yng nghymal Manceinion Cwpan y Byd Trac, UCI a Phencampwriaethau'r Byd yn 2007, gan ennill y pursuit tîm a'r pursuit unigol. Dilynodd y buddugoliaethau yma gan ennill stage prologue y Critérium du Dauphiné Libéré.
Reidiodd Tour de France 2007 dros dîm Cofidis; ond tynnwyd hwy allan o'r gystadleuaeth wedi i aelod arall o'r tîm, Cristian Moreni, brofi'n bositif mewn prawf cyffuriau.[3]
Yn 2008, ail-adroddodd Wiggins ei gampau o Bencampwriaethau'r Byd 2007 gan gipio'r aur yn y Pursuit unigol, gan greu Record y Byd newydd yn y broses. Cipiodd yr aur yn y Madison yn ogystal.
Priododd Bradley, Catherine Cathy Cockram, ym Manceinion yn Nhachwedd 2004, ac mae ganddynt ddau o blant, Ben ac Isabelle.
Yn Rhagfyr 2012, enillodd Wiggins y Wobr "Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC".