Enghraifft o'r canlynol | embroidery |
---|---|
Crëwr | Unknown |
Deunydd | linen, Gwlân |
Gwlad | Lloegr, Teyrnas Lloegr |
Iaith | Lladin yr Oesoedd Canol |
Dechrau/Sefydlu | 1070s |
Genre | Anglo-Saxon art, peintio hanesyddol |
Lleoliad | Bayeux |
Perchennog | gwladwriaeth Ffrainc |
Prif bwnc | Concwest Normanaidd Lloegr |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus [1] |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Rhanbarth | Bayeux |
Gwefan | https://www.bayeuxmuseum.com/en/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Brodwaith enwog o'r 11g a luniwyd ar gyfer Eglwys gadeiriol Bayeux, yn Normandi, Ffrainc, i ddathlu buddugoliaeth Dug Gwilym ym Mrwydr Hastings a goresgyniad Lloegr gan y Normaniaid yw Brodwaith Bayeux.
Mae'r brodwaith, sy'n 69 m (231 troedfedd) o hyd, yn rhoi hanes darluniadol goresgyniad Lloegr gan y Normaniaid gan ddechrau gydag ymweliad Harold II, brenin Lloegr â Normandi a gorffen gyda Brwydr Hastings yn 1066. Mae o werth hanesyddol mawr. Cafodd ei gomisynu gan Odo, Esgob Bayeux, hanner-brawd Dug Gwilym (Gwilym Gwncwerwr). Yn ôl traddodiad, cafodd ei wneud gan Mathilda, gwraig Gwilym, ond credir erbyn hyn iddo gael ei lunio gan grefftwyr Normanaidd yn Lloegr ar ôl y Goresgyniad.
Gellir gweld Brodwaith Bayeux yn amgueddfa Bayeux.