Mae Brut yn enw a ddefnyddid yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol ar gyfer hanes neu gronicl. Roedd y cynnwys yn gallu bod yn hanes go iawn, hanes traddodiadol neu'n gymysgedd o'r ddau.
Tarddiad y gair Brut yw enw personol y cymeriad traddodiadol Brutus, sylfaenydd chwedlonol hil y Brytaniaid (hynafiaid y Cymry, y Cernywiaid a'r Llydawyr). Sieffre o Fynwy a gyflwynodd Frutus i'r byd yn ei lyfr Historia Regum Britanniae (a elwir hefyd Brut Sieffre; Brut y Brenhinedd yw enw'r arferol ar y fersiynau Cymraeg Canol). Ystyr y gair 'brut' yn wreiddiol felly oedd "hanes Brutus", ond yn ddiweddarach daeth i olygu cronicl neu lyfr hanes yn ymwneud â hanes Ynys Prydain a Chymru.
Mae'r llinell rhwng hanes go iawn a hanes traddodiadol yn tueddu i fod yn amlwg i ni heddiw, ond nid oedd mor eglur yn yr Oesoedd Canol.