Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 1257 |
Lleoliad | Llandeilo |
Gwladwriaeth | Cymru |
Rhanbarth | Sir Gaerfyrddin |
Mae Brwydr Coed Llathen a Brwydr y Cymerau yn ddwy frwydr a ymladdwyd ar yr un diwrnod (2 Mehefin 1257), lle cafodd Byddin Cymru ddwy fuddugoliaeth fawr yn erbyn y Saeson. Cânt eu cyfrif ymhlith y brwydrau pwysicaf a ymladdwyd yn hanes Cymru, gyda'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd, yn ei anterth. Mae rhai haneswyr yn eu hysyried yn un frwydr, mewn dwy ran: y cyntaf yng Nghoed Llathen, plwyf Llangathen - tua 5 km i'r gorllewin o Landeilo, a'r ail yn 'y Cymerau'. Mae lleoliad Coed Llathen yn wybyddus ers canrifoedd (gweler map 1888 yr Os; cyfeirnod grid SN579229), a cheir nifer o enwau caeau a lleoedd eraill sy'n coffau'r frwydr, ond ceir ychydig o ddadl am union leoliad 'Cymerau' a ymladdwyd pan oedd byddin Lloegr ar ffo. Lladdwyd 3,000 o Saeson a llond dwrn o Gymry.
Cofnodwyd yr hanes yn yr Annales Cambriae ac ym Mrut y Tywysogion (Peniarth MS 20 a Llyfr Coch Hergest). Disgrifir y frwydr hefyd yn Saesneg gan Mathew Paris yn ei Chronica Majora, lle nodir fod y golled i'r Saeson yn un enfawr, ac mewn nifer o lawysgrifau eraill, yn bennaf ym mynachlogydd Osney a Tewkesbury.