Byddin yr Unol Daleithiau

Byddin yr Unol Daleithiau
Enghraifft o'r canlynolbyddin Edit this on Wikidata
Rhan oLluoedd Arfog yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu14 Mehefin 1775 Edit this on Wikidata
Lleoliadledled y byd Edit this on Wikidata
RhagflaenyddContinental Army Edit this on Wikidata
Isgwmni/auUnited States Army Forces Command, United States Army Training and Doctrine Command, United States Army Materiel Command, Southern European Task Force, Africa, United States Army Central, United States Army North, United States Army South, United States Army Europe and Africa, United States Army Pacific, United States Army Special Operations Command, Surface Deployment and Distribution Command, United States Army Space and Missile Defense Command, United States Army Cyber Command, United States Army Test and Evaluation Command, United States Army Military District of Washington, Academi Filwrol yr Unol Daleithiau, Coleg Rhyfel UDA, United States Army Installation Management Command, United States Army Accessions Command, United States Army Human Resources Command, United States Army Corps of Engineers, United States Army Intelligence and Security Command, United States Army Medical Command, Department of the Army Criminal Investigation Division, United States Army Research, Development and Engineering Command, United States Army Institute of Surgical Research, Telemedicine and Advanced Technology Research Center, United States Army Medical Research and Development Command, Office of the Inspector General of the United States Army, American Volunteer Motor Ambulance Corps, Army Medical Department Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadUnited States Department of the Army Edit this on Wikidata
PencadlysY Pentagon Edit this on Wikidata
Enw brodorolUnited States Army Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://army.mil Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sêl Adran Byddin yr Unol Daleithiau

Llu arfog Unol Daleithiau America gyda dyletswydd dros weithredoedd milwrol ar dir yw Byddin yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Army). Caiff ei rheoli gan Adran y Fyddin – rhan o Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau – a bennir gan Ysgrifennydd y Fyddin. Creuwyd y Fyddin gan y Gyngres ar 3 Mehefin, 1784 yn dilyn diwedd Rhyfel Annibyniaeth America fel olynydd i'r Fyddin Gyfandirol a fu'n ymladd yn y rhyfel i ennill annibyniaeth.

Ers ei ffurfio yn swyddogol yn 1784 mae Byddin yr Unol Daleithiau wedi ymladd mewn sawl rhyfel, yn yr Unol Daleithiau ei hun (yn 19g) ac ar draws y byd. Cymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf a bu ganddi ran sylweddol yn yr Ail Ryfel Byd, yn enwedig yn rhan olaf y rhyfel yn Ewrop ac yn theatr y Cefnfor Tawel yn erbyn Japan ar ôl i'r wlad honno ymosod ar Pearl Harbor a thynnu'r Unol Daleithiau i mewn i'r rhyfel. Bu ganddi ran amlwg hefyd yn Rhyfel Corea yn y 1950au ac yn Rhyfel Fietnam.

Yn fwy diweddar, fel rhan o'r "Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth", mae'r fyddin wedi cymryd rhan yn Rhyfel Irac, lle cafodd tua 40,000 o filwyr ar y tir, ac yn Rhyfel Affganistan, lle roedd yn ymladd â'r Taleban.


Developed by StudentB