Enw llawn | Clwb Pêl-droed Y Seintiau Newydd | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | Y Seintiau | ||
Sefydlwyd |
1860 (C.P.D. Tref Croesoswallt) 1959 (C.P.D. Llansantffraid) | ||
Maes | Neuadd y Parc, Croesoswallt | ||
Cynghrair | Uwch Gynghrair Cymru | ||
2023/24 | 1. | ||
|
Clwb pêl-droed o Groesoswallt ydy Clwb Pêl-droed Y Seintiau Newydd (Saesneg: The New Saints Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, sef Preimier Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru ac maent wedi bod yn bencampwyr ar 13eg achlysur. Maent hefyd wedi codi tlws Cwpan Cymru ar chwech achlysur.
Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Neuadd y Parc, maes sy'n dal uchafswm o 3,000 o dorf[1].
Daeth y clwb i fodolaeth yn dilyn uniad rhwng clybiau Llansantffraid a Chroesoswallt yn 2003[2] .
Ceir hefyd tîm menywod Y Seinitau Newydd. Bu i C.P.D. Merched y Seintiau Newydd gystadlu yn nhymor cyntaf Adran Premier, sef, Uwch Gynghrair Pêl-droed Merched Cymru ar ei newydd wedd yn nhymor 2021-22.
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)