Cadell ap Gruffudd | |
---|---|
Ganwyd | 12 g |
Bu farw | 1175 Abaty Ystrad Fflur |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Tad | Gruffudd ap Rhys |
Roedd Cadell ap Gruffudd (bu farw 1175) yn dywysog Deheubarth yn ne-orllewin Cymru.
Cadell oedd ail fab Gruffudd ap Rhys, oedd yn arglwydd ar ran o deyrnas Deheubarth gyda'r gweddill yn nwylo amryw o arglwyddi Normanaidd. Pan fu farw Gruffydd yn 1137 daeth ei fab hynaf, brawd Cadell, Anarawd ap Gruffudd, yn dywysog Deheubarth. Ceir y sôn cyntaf am Cadell y flwyddyn wedyn, pan gynorthwyodd ei frawd Anarawd ac Owain Gwynedd, tywysog Gwynedd a'i frawd Cadwaladr ap Gruffudd mewn ymosodiad ar Gastell Aberteifi.
Yn 1143 llofruddiwyd Anarawd gan wŷr Cadwaladr, a daeth Cadell yn dywysog Deheubarth. Aeth ymlaen a'r gwaith yr oedd Anarawd wedi ei ddechrau, i ad-ennill hen deyrnas ei daid, Rhys ap Tewdwr. Yn 1146 cipiodd gestyll Caerfyrddin a Llansteffan, a'r flwyddyn wedyn enillodd fuddugoliaeth dros Walter Fitzwiz. Yn 1150 trodd tua'r gogledd, a hawliodd yn ôl dde Ceredigion, oedd yn cael ei ddal i Wynedd gan Hywel ab Owain Gwynedd.
Diweddwyd gyrfa Cadell fel tywysog yn 1151. Pan oedd allan yn hela, ymosodwyd arno gan fintai o Normaniaid o Ddinbych y Pysgod. Gadwawsant ef gan gredu ei fod yn farw, ond llwyddwyd i achub ei fywyd. Fodd bynnag yr oedd wedi ei niwedio mor ddifrifol fel na allai barhau gyda'i weithgareddau. Yn 1153 aeth ar bererindod i Rufain, gan adael Deheubarth i'w frodyr iau, Maredudd a Rhys. Ni chlywir am Cadell eto tan 1175, pan aeth i Abaty Ystrad Fflur wedi afiechyd hir, a marw yno.