Enghraifft o'r canlynol | corff cyhoeddus anadrannol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1984 |
Rhiant sefydliad | Llywodraeth Cymru |
Pencadlys | Caerdydd |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://cadw.gov.wales/, https://cadw.llyw.cymru/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Cymru yw Cadw sy'n rhan o Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n chwarae rôl debyg i English Heritage yn Lloegr a Historic Scotland yn yr Alban. Fe'i sefydlwyd ym 1984. Lleolir ei bencadlys yn Nhrefforest. Mae'n rhestru henebion ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cynnal ac yn agored i'r cyhoedd.
Mae henebion Rhufeinig, tai hanesyddol, cestyll, ac abatai i gyd ymhlith yr adeiladau yng ngofal Cadw. Rhoddir isod restr o rai ohonynt, yn nhrefn yr wyddor, gyda dolen i dudalennau ar wefan Cadw.