Etholaeth Sir | |
---|---|
Caerffili yn siroedd Cymru | |
Creu: | 1918 |
Math: | Tŷ'r Cyffredin |
AS presennol: | Wayne David (Llafur) |
Mae Caerffili yn etholaeth yn ne Cymru. Mae hi'n ymestyn o gyrion Caerdydd yn y de i Fannau Brycheiniog yn y gogledd. Yr Aelod Seneddol presennol yw Wayne David (Llafur).
Dioddefodd yr ardal ar ôl cwymp y diwydiant glo, ond i raddau mae diwydiannau newydd wedi cymryd lle'r hen ddiwydiant trwm. Mae nifer yn cymudo oddi yma i'w gwaith yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
Mae Llafur wedi bod yn gryf iawn yma yn y gorffennol - hon oedd hen sedd Ron Davies. Serch hynny mae Plaid Cymru wedi cael llwyddiannau yma yn y gorffennol hefyd, yn enwedig wrth gipio Cyngor Caerffili yn achlysurol.