Math | camlas |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerlŷr, Swydd Buckingham, Berkshire, Swydd Warwick, Swydd Northampton, Swydd Hertford |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.0508°N 0.734°W |
Hyd | 220 cilometr |
Perchnogaeth | Grand Union Canal Company |
Camlas sy'n cysylltu Llundain a Birmingham yw Camlas Grand Union.[1] Mae’n 137 milltir o hyd ac mae 166 o lociau. Mae canghennau’n mynd i Gaerlŷr, Slough, Aylesbury, Wendover a Northampton. Crewyd y Grand Union gan uno Camlas Grand Junction a Chamlas Regent
Mae’r gamlas yn cysylltu ag Afon Tafwys yn Brentford, ac mae dros 50 o lociau rhwng Afon Tafwys a chopa Bryniau Chiltern. Mae’r gamlas yn mynd trwy Stoke Bruerne, lle mae Amgueddfa’r Camlesi, a Braunston. Mae twneli ger Braunston a Blisworth. Mae’r gamlas yn mynd trwy Leamington Spa a Warwick ar ei ffordd i Birmingham. Mae 21 o lociau yn Hatton sydd erbyn hyn wedi cael y llysenw ‘Stairway to Heaven’. Ailadeiladwyd y lociau gyda choncrit gan 1,000 o ddynion dros gyfnod o 2 flynedd.[2]