Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | canser thorasig, clefyd y fron, neoplasm y fron, clefyd |
Arbenigedd meddygol | Oncoleg |
Symptomau | Breast lump, chwydd, cosi poenus, sore nipples, nipple discharge, mastodynia, lump in chest |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae canser y fron yn datblygu o feinwe’r fron.[1] Gall arwyddion o fodolaeth canser y fron gynnwys lwmp yn y fron, newid yn siâp y fron, crychu yn y croen, hylif yn dod o’r deth, neu groen coch, cennog.[2] I rai sydd â’r clefyd wedi lledaenu cryn dipyn, gellir cael poen yn yr asgwrn, chwyddiant yn y nodau lymff, bod yn fyr o wynt neu groen melyn.[3]
Mae’r ffactorau sy’n pery risg o ddatblygu canser y fron yn cynnwys bod yn fenywaidd, gordew, diffyg ymarfer corff, yfed alcohol, therapi adfer hormonau yn ystod y menopos, ymbelydredd ïoneiddio, cychwyn misglwyf yn ifanc, cael plant yn hwyrach neu beidio cael plant o gwbl, bod yn hŷn a hanes teuluol. [4] Mae 5-10% o achosion oherwydd genynnau wedi eu hetifeddu gan rieni, gan gynnwys BRCA1 a BRCA2 ymhlith eraill. Mae canser y fron yn datblygu’n gan amlaf yng nghelloedd leinin y dwythellau llaeth a’r llabed sy’n cyflenwi’r dwythellau â llaeth. Mae canser sy’n datblygu o’r dwythellau yn cael eu galw’n carsinoma dwythellol, tra gelwir y rhai sy’n datblygu yn y llabed yn garsinoma’r llabed. Ceir hefyd 18 is-fath o ganser y fron. Mae rhai math o ganser, fel carsinoma dwythellol in situ, yn datblygu o friwiau cyn-ymledol. Ceir diagnosis o ganser y fron drwy fiopsi o’r lwmp o dan sylw. Pan gaiff y diagnosis ei wneud, gwneir rhagor o brofion i weld os yw’r canser wedi lledaenu ymhellach na’r fron, a pha driniaethau y gallai’r canser ymateb iddo.
Mae pwyso a mesur budd yn erbyn niwed wrth gynnal profion sgrinio canser y fron yn ddadleuol. Dywedodd adolygiad Cochrane 2013 ei bod yn aneglur os yw sgrinio mamograffeg yn gwneud mwy o les neu niwed.[5] Cafwyd darganfyddiad mewn adolygiad gan dasglu gwasanaethau ataliol yr UDA yn 2009 bod budd i’r rhai oedd yn rhwng 40 a 70 oed,[6] ac mae’r mudiad yn argymell sgrinio bob dwy flynedd i ferched rhwng 50 a 74 oed.[7] Gellir defnyddio’r meddyginiaethau tamoxifen a raloxifene i geisio atal canser y fron i’r rheiny sydd â risg uchel o’i ddatblygu. Mae codi’r ddwy fron hefyd yn ddull o atal ei ddatblygiad mewn merched sydd â risg uchel. II’r rheiny sydd wedi cael derbyn cadarnhad bod canser ganddynt, gellir defnyddio sawl triniaeth, gan gynnwys llawdriniaeth, therapi ymbelydredd, cemotherapi, therapi hormonau a therapi targedig. Mae’r math o lawdriniaeth yn eang iawn, o lawdriniaeth i geisio cadw’r fron i fastectomi.[8][9] Gall adlunio’r bronnau ddigwydd yn ystod y llawdriniaeth neu yn y dyfodol. II’r rhai lle mae’r canser wedi ymledu i rannau eraill y corf, mae triniaeth yn anelu at wella ansawdd bywyd a chyfforddusrwydd.
Mae effaith canser y fron yn ddibynnol ar y math o ganser, ehangder y clefyd, ac oed y person. Mae niferoedd y rhai sy’n goroesi yn uchel yn y byd sydd wedi datblygu,[10] mae rhwng 80% a 90% o’r rheiny yn Lloegr neu’r UDA yn byw am o leiaf 5 mlynedd.[11][12] IYn y gwledydd datblygedig mae’r niferoedd sy’n goroesi yn salach. Canser y fron yw’r canser mwyaf blaenllaw mewn merched ar draws y byd, ac mae’n cyfrif am 25% o’r holl achosion.[13] Yn 2012 cafwyd 1.68 miliwn o achosion a 522, 000 o farwolaethau. Mae’n fwy cyffredin yn y gwledydd sydd wedi datblygu, ac mae’n 100 gwaith mwy cyffredin mewn merched na dynion.[14]
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)