Math | castell, caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gorllewin Swydd Dunbarton |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 55.936°N 4.5628°W |
Rheolir gan | Historic Environment Scotland |
Perchnogaeth | Historic Environment Scotland |
Statws treftadaeth | part of a Scheduled Monument |
Manylion | |
Castell yn yr Alban sy'n dyddio yn ôl i'r Oesoedd Canol Cynnar yw Castell Dumbarton. Mae'r safle 240 troedfedd i fyny ar Graig Dumbarton uwchben tref Dumbarton, ger Glasgow, ar lan Afon Clud. Daw'r enw o'r enw Gaeleg: Dùn Breatainn,, "Caer y Brythoniaid"). Yma yn y cyfnod wedi ymadawiad y Rhufeiniaid o Brydain yr oedd caer Alt Clut neu Alclut (Allt Clud mewn Cymraeg Diweddar), prif lys teyrnas Frythonig Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd. Codwyd castell arall yno yn yr Oesoedd Canol a ddaeth yn un o ganolfannau brenhinoedd yr Alban. Ychydig iawn o olion o'r cestyll hyn sy'n aros yno erbyn heddiw.