Enghraifft o'r canlynol | teulu ieithyddol |
---|---|
Math | Ieithoedd Celtaidd |
Yn cynnwys | ieithoedd Brythonaidd, ieithoedd Goedelaidd, Picteg |
Mae ieithoedd Celteg Ynysig yn un o ddwy ganeg yr ieithoedd Celtaidd yn ôl un theori. Y gangen arall yw Celteg y Cyfandir.
Rhennir yr ieithoedd Celteg Ynysig yn ddwy gangen: Goedeleg, a elwir weithiau'n Gelteg Q, sy'n cynnwys Gwyddeleg, Manaweg, Gaeleg yr Alban, a Brythoneg a elwir weithiau'n Gelteg P, sef Cymraeg, Cernyweg a Llydaweg.
Gelwir hwy yn ieithoedd "Ynysig" gan eu bod, yn ôl y theori yma, wedi datblygu ar ynysoedd Prydain ac Iwerddon, er mai ar y cyfandir y siaredir Llydaweg heddiw. Oherwydd hyn, mae gan yr ieithoedd yma berthynas agosach â'i gilydd na chydag ieithoedd cyfandirol, megis Celtibereg a Galeg.
Gellir crynhoi tarddiad yr ieithoedd hyn fel a ganlyn:
Dengys y tabl canlynol datblygiad y Proto-Gelteg */kʷ/ hyd at /p/ yn y Galeg a'r Frythoneg ond i /k/ yn yr ieithoedd Goedeleg (neu ieithoedd Gaeleg).
Proto-Gelteg | Galeg | Cymraeg | Cernyweg | Llydaweg | Gwyddeleg | Gaeleg | Manaweg | Saesneg er cyferbyniaeth |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
*kʷennos | pennos | pen | penn | penn | ceann | ceann | kione | "head" |
*kʷetwar- | petuarios | pedwar | peswar | pevar | ceathair | ceithir | kiare | "four" |
*kʷenkʷe | pinpetos | pump | pymp | pemp | cúig | còig | queig | "five" |
*kʷeis | pis | pwy | piw | piv | cé (older cia) | cò/cia | quoi | "who" |
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg | ||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd |