Enghraifft o'r canlynol | iaith farw, iaith yr henfyd |
---|---|
Math | Celteg y Cyfandir |
Enw brodorol | Unknown |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-3 | xce |
Gwladwriaeth | Celtiberia |
System ysgrifennu | Iberian scripts, yr wyddor Ladin |
Roedd Celtibereg (hefyd Celteg Iberaidd) yn iaith Geltaidd a siaredid gan y Celtiberiaid yn yr hyn sy'n awr yn ganolbarth Sbaen a rhannau o Bortiwgal.
Ychydig sydd ar ôl o'r iaith, heblaw dyrnaid o enwau lleoedd a rhai enwau personol, ac ambell arysgrif at blaciau efydd a phlwm. Mae'r rhain yn defnyddio'r sgript Geltibereg, sy'n defnyddio cyfuniad o'r wyddor Ffenicaidd a'r wyddor Roeg. Roedd Celtibereg yn iaith "Celteg Q", fel yr ieithoedd Goideleg, yn hytrach na "Chelteg P" fel Galeg a'r ieithoedd Brythoneg. Y farn gyffredinol ymysg ieithyddwyr yw bod yr hollt rhwng "p" a "q" yn yr ieithoedd Celtaidd Ynysig wedi digwydd yn annibynnol ar yr hollt yma yn yr ieithoedd Celtaidd Cyfandirol, ond mae rhai yn anghytuno.
Yr arysgrifau mwyaf nodedig mewn Celtibereg yw'r rhai ar dri plac a ddarganfuwyd yn Botorrita ger Saragossa, o'r ganrif gyntaf CC.