Rhwng y fflam a'r blodyn mae aerogel, defnyddiwyd cemeg ffisegol er mwyn ei greu
Cemeg ffisegol yw'r astudiaeth o ffenomenau macrosgopig a gronynnol mewn systemau cemegol o ran egwyddorion, arferion, a chysyniadau o fewn ffiseg , megis mudiant , egni , grym , amser , thermodynameg , cemeg cwantwm , mecaneg ystadegol , deinameg ddadansoddol ac ecwilibria cemegol.
Mae cemeg ffisegol, yn wahanol i ffiseg gemegol , yn wyddor facrosgopig neu uwch-folecwlaidd yn bennaf (ond nid bob amser), gan fod y mwyafrif o’r egwyddorion y’i seiliwyd arnynt yn ymwneud â’r swmp yn hytrach na’r strwythur moleciwlaidd/atomig yn unig (er enghraifft, ecwilibriwm cemegol a choloidau).
Ymhlith yr hyn y mae cemeg ffisegol yn ceisio'u datrys mae effeithiau:
Grymoedd rhyngfoleciwlaidd sy'n gweithredu ar briodweddau ffisegol defnyddiau (plastigrwydd , cryfder tynnol a thensiwn arwyneb mewn hylifau ).
Cineteg adwaith ar gyfradd adwaith .
Adnabyddiaeth ïonau a dargludedd trydanol deunyddiau.
Gwyddoniaeth arwyneb ac electrocemeg cellbilenni . [ 1]
Rhyngweithio un corff ag un arall o ran meintiau gwres a gwaith, a elwir yn thermodynameg .
Trosglwyddo gwres rhwng system gemegol a'r ardal o'u cwmpas yn ystod newid cyfnod neu adwaith cemegol sy'n digwydd, ac a elwir yn thermocemeg
Astudiaeth o briodweddau cydglymu nifer y rhywogaethau sy'n bresennol mewn hydoddiant.
Gellir cydberthyn nifer y cyfnodau, nifer y cydrannau a graddau rhyddid (neu amrywiant) â'i gilydd gyda chymorth y rheol cyfnod.
Adweithiau celloedd electrocemegol .
Ymddygiad systemau microsgopig gan ddefnyddio mecaneg cwantwm a systemau macrosgopig gan ddefnyddio thermodynameg ystadegol .
↑ Torben Smith Sørensen (1999). Surface chemistry and electrochemistry of membranes . CRC Press. t. 134. ISBN 0-8247-1922-0 .