Charles III | |||||
---|---|---|---|---|---|
Pennaeth y Gymanwlad | |||||
Charles III yn 2023 | |||||
Brenin y Deyrnas Unedig ac eraill teyrnasoedd y Gymanwlad | |||||
8 Medi 2022 – presennol | |||||
Coronwyd | 6 Mai 2023 | ||||
Rhagflaenydd | Elisabeth II | ||||
Etifedd | William, Tywysog Cymru | ||||
Ganwyd | Y Tywysog Charles o Caeredin 14 Tachwedd 1948 Palas Buckingham, Llundain, Lloegr | ||||
Priod |
| ||||
Plant | |||||
| |||||
Teulu | Windsor | ||||
Tad | Y Tywysog Philip, Dug Caeredin | ||||
Mam | Elisabeth II | ||||
Crefydd | Protestannaidd |
Brenin y Deyrnas Unedig a 14 teyrnas arall y Gymanwlad yw Charles III (Charles Philip Arthur George; ganwyd 14 Tachwedd 1948).[1][2] Roedd wedi bod yn etifedd eglur am y mwyafrif helaeth o'i fywyd pan ddaeth yn frenin yn 73 oed yn 2022, wedi marwolaeth ei fam Elisabeth II.
Cafodd ei eni ym Mhalas Buckingham, gyda'r teitl Tywysog Charles o Gaeredin. Fe'i wnaed yn Dywysog Cymru yn 1958.
Gelwir ef yng Nghymru yn aml yn Carlo, ar ôl cân enwog Dafydd Iwan o'r un enw, a oedd yn boblogaidd iawn yng Nghymru adeg ei arwisgo yn 1969.
Daeth ei arwisgo yn fater gwleidyddol a dadleuol iawn. Roedd twf Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn ofid i'r Blaid Lafur a gwelodd George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, gyfle i wrthweithio'r tyfiant hwn wrth drefnu arwisgo'r tywysog yng Nghaernarfon yn 1969. Roedd y genhedlaeth ifanc o genedlaetholwyr yn gweld hyn yn sarhad ar Gymru ac ar yr iaith.[3]
Bu George Thomas yn ddigon cyfrwys i gael y tywysog yn fyfyriwr yng ngholeg Aberystwyth am dri mis i ddysgu'r Gymraeg. Ond pan ymwelodd Charles ag Eisteddfod yr Urdd a gwneud ei araith yn Gymraeg protestiodd nifer o'r bobl ifanc a cherdded allan. Cynhaliwyd rali enfawr yn erbyn yr arwisgo yng Nghilmeri.
Cafodd Charles a'i ail wraig Camilla eu seremoni i goroni ar 6 Mai 2023 yn Llundain.
Yn 2024, ar ôl arhosiad byr yn yr ysbyty, cyhoeddwyd bod gan Charles ganser. Dwedodd y Palas ei fod "yn parhau'n hollol bositif ynghylch ei driniaeth ac yn edrych ymlaen at ddychwelyd i ddyletswyddau cyhoeddus llawn cyn gynted â phosib".[4]