Brechdan selsigen yw ci poeth neu boethgi ble mae'r selsigen wedi'i weini mewn agen a wnaed mewn bynsen hir. Gall gyfeirio hefyd at y selsigen yn unig. Mae cyfwyd nodweddiadol ar gyfer ci poeth yn cynnwys mwstard, sôs coch, mayonnaise, ac enllyn, a garnisiau cyffredin yn cynnwys nionod, bresych picl, tshili, caws, colslo, ac olewydd.
Daeth y mathau o selsig sy'n cael eu rhoi mewn cŵn poeth o'r Almaen a daethant yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau, ac yno y daeth y "ci poeth" yn fwyd stryd i'r dosbarth gweithiol, yn cael eu gwerthu ar stondinau a chertiau. Daeth y ci poeth i'w gysylltu'n agos â phêl fas a diwylliant Americanaidd. Er ei fod yn cael ei gysylltu yn arbennig â Dinas Efrog Newydd, daeth y ci poeth i'w weld ledled yn yr Unol Daleithiau yn ystod yr 20g.[1][2][3]
Mae'r term ci (neu 'dog' yn Saesneg) wedi'i ddefnyddio fel gair i gyfeirio at selsigen ers y 19g. Un gred yw ei fod yn cael ei ddefnyddio fel cyhuddiad bod gwneuthurwyr selsig yn defnyddio cig cŵn, a hynny o leiaf ers 1845.[4] Mae'n debyg bod bwyta cig cŵn yn eitha cyffredin yn yr Almaen ar ddechrau'r 20g.[5][6]