Enghraifft o'r canlynol | grwp ethnig hanesyddol |
---|
Llwyth Almaenig yn wreiddiol o ogledd Jutland (Himmerland, Denmarc heddiw) oedd y Cimbri. Tua diwedd yr ail ganrif CC ymfudodd nifer fawr o’r Cimbri gyda llwythau y Teutones a’r Ambrones tua’r de i chwilio am diriogaethau newydd i’w sefydlu. Efallai fod hyn oherwydd effeithiau llifogydd yn ei tiriogaethau eu hunain. Yn ôl yr hanesydd Plutarch roedd gan y Cimbri fyddin o 300,000 o ryfelwyr, ond mae haneswyr diweddar yn credu fod eu nifer yn llai.
Yn 113 CC daethant i gysylltiad a’r Rhufeiniaid am y tro cyntaf, ac enillasant fuddugoliaeth dros fyddin Rufeinig dan y conswl Papirius Carbo. Yn 109 CC gorchfygasant fyddin Rufeinig arall dan Marcus Junius Silanus yn ne-ddwyrain Gâl, ac yn 107 CC gorchfygodd eu cyngheiriad, y Tigurines (o’r Swistir heddiw) fyddin dan Lucius Cassius Longinus. Yn 105 CC ym Mrwydr Arausio gorchfygasant y conswl Quintus Servilius Caepio gyda lladdfa fawr. Roedd colledion y Rhufeiniaid yn fwy nag mewn unrhyw frwydr ers Brwydr Cannae.
Yn y blynyddoedd nesaf bu’r llwythau Almaenig yn crwydro o gwmpas Sbaen, cyn symud yn ôl tua’r Eidal. Yma, ymwahanodd y Teutones a’r Ambrones oddi wrth y Cimbri. Yn 102 CC gorchfygwyd y Teutones a’r Ambrones gan fyddin Rufeinig dan Gaius Marius ym Mrwydr Aquae Sextiae gyda lladdfa enfawr.
Y flwyddyn ganlynol, ymunodd Marius a’r conswl arall, Quintus Lutatius Catulus i orchfygu’r Cimbri ym Mrwydr Vercellae . Rhoddodd hyn ddiwedd ar y bygythiad i’r Eidal. Cofnodir y Cimbri yn byw yn Jutland gan nifer o haneswyr diweddarach.
Nid ymddengys fod cysylltiad rhwng "Cimbri" a "Cymry", er gwaethaf y tebygrwydd, ond mae rhai ysgolheigion wedi awgrymu y gallai’r Cimbri fod yn siarad iaith Geltaidd yn hytrach nag Almaenig. Er enghraifft, enw eu brenin yn y frwydr yn erbyn Marius oedd Boiorix, sy’n enw Celtaidd.