Ciwb

Ciwb
Delwedd:Plato-6.png, The 11 cubic nets.svg
MathPlatonic solid, hypercube, zonohedron, trigonal trapezohedron, rhombohedron, ciwboid, quadrilateral prism, gwrthrych 3-dimensiwn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ciwb yn troi o rwyd i fod yn hecsahedron rheolaidd

Mewn geometreg, sy'n rhan o fathemateg, mae'r ciwb yn ffurf solat, rheolaidd tri dimensiwn â chwe arwyneb (neu ochr) sgwâr gyda 3 ohonynt yn cyfarfod ar ongl sgwâr[1][2] i'w gilydd ym mhob fertig (cornel). Y gair ar lafar gwlad amdano'n amal ydy "bocs" neu "flwch".

Y ciwb yw'r unig hecsahedron rheolaidd, ac mae'n un o'r pum ffurf Platonig. Mae ganddo, felly, 6 arwyneb, 12 ymyl ac 8 fertig. Mae'r ciwb hefyd yn paralelepiped sgwâr, yn giwboid hafalochrog ac yn rhombohedron-dde. Mae'n brism sgwâr reolaidd mewn tri chyfeiriadaeth (orientations), ac mae hefyd yn trapesohedron trigonol mewn pedwar cyfeiriad.

Mae'n eitha tebyg i'r octahedron yn ei gymesuredd ciwbig neu octahedrol. Y ciwb yw'r unig polyhedron amgrwm sydd â'i wynebau i gyd yn sgwariau.

  1.  sgwâr-onglog. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
  2. [1][dolen farw]

Developed by StudentB