Math | teulu |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp ceraint o deuluoedd estynedig sy'n olrhain eu llinach yn ôl i gydhynafiad unigol yw clan.[1] Mae'r dras a rennir yn rhoi i'r teuluoedd gwahanol syniad o hanes cyffredin rhyngddynt.[2] Fel arfer mae'r dras yn unllinellog neu o linach y tadau neu'r mamau'n unig. Gan amlaf, ond nid pob amser, mae claniau yn allbriodasol, a chaiff priodas o fewn y clan ei gweld yn llosgach.[3]
Yn hanesyddol cysylltir y term â chlaniau'r Alban ac Iwerddon, ond defnyddir yn fwyfwy heddiw i ddisgrifio grwpiau ar draws y byd. O ran maint, mae clan yn tueddu i fod yn fwy na band ond yn llai na llwyth. Mewn rhai cymdeithasau mae nifer o glaniau yn ffurfio llwyth.