Talwyneb hen Theatr Tywysog Cymru yng Nghaerdydd, enghraifft o bensaernïaeth a cherfluniaeth yn null yr adfywiad Groegaidd. | |
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf, arddull pensaernïol |
---|---|
Dechreuwyd | 1660 |
Daeth i ben | 1725 |
Olynwyd gan | Yr Oleuedigaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arddull neu fudiad yn y celfyddydau yw clasuriaeth sydd yn arddel egwyddorion a gwerthoedd yr oes glasurol—hynny yw, diwylliant Groeg a Rhufain hynafol—gan gynnwys trefn, cydbwysedd, eglurder, symlrwydd, a chynildeb. Cysylltir clasuriaeth yn aml â delfrydau rheswm, rhesymeg, a rhesymoledd, a chyda phwyslais ar draddodiad, hanes, a doethineb y gorffennol.
Nodweddir clasuriaeth yng nghelf a phensaernïaeth gan gymesuredd, cyfranoldeb, a chytgord, ar sail celf yr hen Roegiaid a'r Rhufeiniaid. Mae clasuriaeth lenyddol yn pwysleisio eglurder, rhesymoledd, a strwythur ffurfiol, ar batrwm llenyddiaeth Hen Roeg a llenyddiaeth Ladin Rhufain.
Câi clasuriaeth ddylanwad enfawr ar ddiwylliant y Gorllewin, yn enwedig yn ystod cyfnodau'r Dadeni Dysg a'r Oleuedigaeth. Yn y 18g daeth newydd-glasuriaeth yn boblogaidd ar draws Ewrop, a chafodd ei chyferbynnu â Rhamantiaeth.