Cog | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Cuculiformes |
Teulu: | Cuculidae |
Genws: | Cuculus |
Rhywogaeth: | C. canorus |
Enw deuenwol | |
Cuculus canorus (Linnaeus, 1758) |
Aderyn sy'n aelod o Urdd y Cuculiformes yw'r gog (lluosog: cogau) neu'r gwcw (lluosog: cwcwod) (Cuculus canorus). Enw'r teulu yw Cuculidae (teulu'r cogau).[1][2]
Mae'r gog yn nythu ar draws rhannau helaeth o Ewrop ac Asia, ac yn gaeafu yn Affrica. Un o nodweddion enwocaf yr aderyn yw ei fod yn dodwy ei wyau yn nyth rhywogaeth arall o aderyn, yn arbennig Llwyd y Gwrych, Corhedydd y Waun a Telor y Cyrs. Enw arall ar Gorhedydd y Waun yw "Gwas y Gog". Gall cyw'r gog daflu'r cywion eraill o'r nyth, i sicrhau ei fod ef yn cael yr holl fwyd.
Mae'n aderyn cymharol fawr, llwyd o ran lliw, a gall edrych yn debyg iawn i aderyn ysglyfaethus o gael cipolwg arno'n hedfan. Daw'r enw "cwcw" o alwad yr aderyn.
Er fod y gog yn parhau yn aderyn cymharol gyffredin yng Nghymru, mae ei niferoedd wedi gostwng dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae'n cyrraedd o Affrica tua chanol Ebrill fel rheol, ac mae clywed y gog yn cael ei ystyried yn arwydd o wanwyn. Caiff Clychau'r Gog eu henw oherwydd eu bod yn blodeuo yn yr un cyfnod.